Darganfyddwch beth sy'n digwydd yn Aberhonddu a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau'r Celfyddydau, Treftadaeth a Diwylliant yn y Dref gyda chanllaw digwyddiadau "Beth sy'n Digwydd" Stori Aberhonddu. O Berfformiadau a Chyngherddau Cerddoriaeth i Arddangosfeydd a Sgyrsiau Celf, mae gan Aberhonddu amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau ar gael i chi eu mynychu, eu mwynhau a'u cefnogi.

Rydym yn hynod falch o fedru darparu rhestr o ddigwyddiadau  – a gychwynnwyd trwy garedigrwydd ein cefnogwr hael, y diweddar Mike Scott-Archer.