Dewch am dro trwy hanes diddorol Aberhonddu gyda TRO: Stori Aberhonddu gan ddefnyddio ein map Google Earth fydd yn eich tywys a’ch hysbysu ar hyd y daith.

 

google earth project cymru

 

Mae’r tro yn mynd â chi i’r llefydd allweddol sydd yn adrodd hanes Aberhonddu, ac o gymorth I chi ddod o hyd i 27 o blaciau hanesyddol y gellir eu gweld o gwmpas y dref. Medrwch hefyd ddarllen rhagor am y llefydd diddorol hyn ar ein map digidol a mynnwch gip hefyd ar ein gwefan sydd i’w chael yma:

Mae’r daith o Aberhonddu i chi ei dilyn ar eich liwt eich hun, yn dechrau yn y Guildhall a Stryd Fawr isaf Aberhonddu ac yna yn mynd i Eglwys y Santes Fair, Cofgolofn Dug Wellington a The Bulwark cyn ei throi hi am Amgueddfa ac Oriel Aberhonddu, y Gaer a Watton Mount.

Aiff y daith yn ei blaen ar hyd Stryd y Llew, heibio i gapel y Plough a Sgwâr Bethel cyn dilyn y Stryd Fawr uchaf a’r Struet hyd at risiau’r Brenin Siarl.

O droi i fyny Rhiw’r Priordy a Priory Groves, mynnwch gip ar ysblander Eglwys Gadeiriol Aberhonddu cyn cerdded ar hyd y Postern oddi uchod i’r afon Honddu sy’n mynd â chi heibio i Ely Tower er mwyn cyrraedd Sgwâr y Castell a Chastell Aberhonddu.

Bydd tro byr i lawr trwy Kensington yn mynd â chi ar bont yr Afon Wysg a’r Promenâd ac oddi yno medrwch weld Ysgol Coleg Crist.

Gan droi’n ôl tua’r dref, bydd Ship Street, Wheat Street a Buckingham Place yn eich tywys at Stryd Morgannwg a The Muse.

Ewch heibio cerflun Buddug er mwyn cyrraedd Theatr Brycheiniog a Chamlas Mynwy a Brycheiniog cyn cyrraedd cyrchfan olaf y daith, sef Amgueddfa’r Gatrawd Frenhinol Gymreig a’r Barics sydd gerllaw.

 

Cafodd CERDDED:Stori Aberhonddu ei eni yn ystod y cyfnod clo Covid. Cafodd ei ysbrydoli gan fenter Cadw/Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda’r bwriad o’n hannog ni i gyd i ddarganfod hanes lleol a phensaerniaeth sydd i’w ganfod o fewn pymtheg munud o gerdded o’r lle’r ydyn ni’n byw. Mae llawer o bobl leol yn ymddiddori’n frwd yn hanes y dref. Felly rydyn ni wedi bod yn archwilio drwy hen lyfrau a phapurau newydd i geisio cael mewnwelediad newydd i’r bobl a’r lleoedd sydd wedi ffurfio’n cymuned dros bron i fil o flynyddoedd. Mae’r daith hon hefyd yn amlygu’r 25+ o blaciau hanesyddol sydd i’w gweld yn y dref, sydd wedi cael eu harchwilio a’u glanhau gennym yn y cyfnod ôl-Covid. Os oes gennych ragor o straeon i’w hychwanegi at y prosiect hwn, cysylltwch â breconstory@gmail.com, os gwelwch yn dda.