11th October 2024
- 14th October 2024
"Mae bron i 20 mlynedd ers i ni lansio Gŵyl Baróc Aberhonddu ac mae'n dal i dyfu a ffynnu yn lleoliad hyfryd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn 2023 gwelwyd rhan olaf ein cyfres 'Walk with Bach', antur tair blynedd a oedd yn archwilio bywyd a cherddoriaeth JS Bach a'r rhai a ddylanwadodd ar ei yrfa. Mae Bach wastad wedi bod yn ffigwr canolog wrth greu cerddoriaeth fy hun, felly mae hwn wedi bod yn brosiect arbennig o gyffrous i mi. Ymlaen ac i fyny ar gyfer 2024, gydag archwiliad o repertoire Ffrengig. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl i Aberhonddu rhwng dydd Gwener 11 a dydd Llun 14 Hydref 2024."