Cafodd meddyg arloesol, ymgyrchydd a diwygwraig gymdeithasol ei hanrhydeddu gyda’r unfed ar ddeg Plac Porffor Cymru, a gafodd ei ddadorchuddio ar ei man geni yn y Stryd Fawr, Aberhonddu am 1 o’r gloch, ddydd Gwener, 3ydd o Fawrth 2023.

 

 

Dr Frances Hoggan oedd y fenyw Brydeinig gyntaf i ennill gradd feddygol yn Ewrop.  Hi hefyd oedd yr aelod benywaidd cyntaf o Goleg Meddygon Prydain (trwy ei haelodaeth o Goleg Meddygon y Brenin a'r Frenhines yn Iwerddon).
Teithiodd Frances i'r Swistir i raddio gan nad oedd yn bosib i ferched ennill gradd feddygol yn y Deyrnas Unedig. Graddiodd ym mis Mawrth 1870, dri mis ar y blaen i Elizabeth Garrett Anderson, sydd llawer yn fwy adnabyddus, ac a raddiodd o'r Sorbonne ym mis Mehefin yr un  flwyddyn.
Yn ogystal â brwydro, er gwaethaf llu o rwystrau, i gymhwyso fel meddyg a hithau’n ferch, bu Frances yn ymgyrchu dros sicrhau y gallai menywod eraill gymhwyso a gweithio fel meddygon ym Mhrydain ac yn India. Bu hefyd yn ymgyrchu i sefydlu ysgolion uwchradd i ferched yng Nghymru, ac yn ddiweddarach, gweithiodd dros ddiwygio cymdeithas yn yr Unol Daleithiau, y Dwyrain Canol a De Affrica.
Ganed Frances ym 1843 yn rhif 19  Y Stryd Fawr, Aberhonddu, lle mae siop Nicholls erbyn hyn. Roedd ei thad yn gurad yn yr hyn sydd bellach yn Gadeirlan Aberhonddu cyn dod yn ficer Aberafan. Bu farw ym 1851 yn ystod plentyndod Frances. Parhaodd Frances i ymgyrchu drwy gydol ei  hoes. Bu farw ym 1927.
 

Frances Hoggan first british woman to qualify as a medical doctor

Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, oedd yn dadorchuddio'r plac.  Meddai: 

“Wrth i ni agosáu at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod mae’n wych gweld 11eg Plac Porffor Cymru yn cael ei ddadorchuddio i ddathlu llwyddiannau arloeswraig fel Frances Hoggan. Daeth yn feddyg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd rhwystrau lu yn wynebu menywod oedd am gymhwyso fel meddygon.

“Fel un o’r meddygon benywaidd cyntaf ym Mhrydain bu’n gweithio’n agos gyda’r arloeswyr meddygol eraill, Elizabeth Garrett Anderson ac Elizabeth Blackwell. Roedd Frances hefyd yn fenyw oedd yn barod iawn i fod yn llafar yn gyhoeddus a siaradai’n eofn ar amryw o ddiwygiadau cymdeithasol - yn enwedig addysg a hyfforddiant i ferched – ynghyd â iechyd y cyhoedd, perthnasau hiliol a hawliau anifeiliaid.

“Rwy’n gobeithio y bydd dadorchuddio Plac Porffor i nodi ei llwyddiannau yn sicrhau y bydd ei henw yn cael ei ddyrchafu i’w statws haeddiannol.”
 

 

Meddai Elizabeth Jeffreys, sefydlydd prosiect hanes cymunedol Stori Aberhonddu a helpodd i drefnu dadorchuddio’r plac: 

“Mae bywyd Frances Hoggan yn wirioneddol ysbrydoledig ac yn rhywbeth y gall pawb yn Aberhonddu fod yn wirioneddol falch ohono .

“Bu Frances yn brwydro yn erbyn rhagfarnau ei dydd i ddod yn arloeswraig ac yn arbenigwraig ar glefydau merched a phlant – a thynnodd sylw at lawer o feysydd eraill lle’r oedd angen gwelliannau.”

“Wrth i ni nesu at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar Fawrth 8fed, mae bywyd Dr Frances Hoggan yn ein hatgoffa o’r gwahaniaeth a wnaed gan arloeswyr benywaidd cynnar.”

“Byddai’n wych pe bai pobl yn dod i weld y plac yn cael ei ddadorchuddio y tu allan i siop Nicholls yn y Stryd Fawr am 1pm ddydd Gwener 3ydd Mawrth.”
 

 

Dywedodd Sue Essex, Cadeirydd Placiau Porffor Cymru : “ Dechreuodd ymgyrch y Placiau Porffor yn 2017 fel ffordd o gofio llwyddiannau’r merched hynod niferus yng Nghymru sydd, yn anffodus, wedi cael eu hanwybyddu gan y llyfrau hanes. Rydym yn grŵp o wirfoddolwyr sy'n gweithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol i gael Placiau Porffor i fenywod ac rydym yn falch iawn o anrhydeddu gwraig mor arbennig â Frances Hoggan . Rwy’n gobeithio y bydd hi’n ysbrydoli llawer o ferched ifanc heddiw i wthio’r ffiniau a helpu eraill fydd yn dod ar eu holau.” 

Noddir y plac gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Ychwanegodd Llywydd y Gymdeithas, yr Athro Hywel Thomas: “Mae bywyd  Frances Hoggan yn enghreifftio traddodiad anghydffurfiol Cymru, trwy ei hymgyrchoedd ar iechyd menywod, addysg i ferched a hawl menywod i astudio meddygaeth.

“Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydnabod y cyfraniadau arloesol hyn trwy ein Medal Hoggan flynyddol, sy’n dathlu cyfraniadau rhagorol gan fenywod mewn pynciau STEM.

“Rydym felly’n falch iawn o fod yn noddi’r Plac Porffor hwn sy’n anrhydeddu Frances Hoggan ac yn gobeithio y bydd yn ennyn diddordeb pellach yn y fenyw nodedig hon.”

Gwybodaeth bellach am Frances Hoggan a llun o safon uchel ohoni ar wefan Cymdeithas Ddysgedig Cymru