Artistic Director Katy Sinnadurai, Lesley Walker Company Secretary

Pan berfformiwyd The Nutcracker gan Fale Gŵyl Aberhonddu yn Theatr Brycheiniog ym mis Rhagfyr 2019, fe dorrodd dir newydd. Hwn oedd perfformiad cyntaf y cwmni dielw newydd, ond hefyd y cynhyrchiad proffesiynol cyntaf o’r sioe eiconig yng Nghymru, a bale cerddorfaol llawn cyntaf Theatr Brycheiniog.

Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig o Aberhonddu, Katy Sinnadurai (a fu gynt yn falerina gyda Bale Gwladwriaeth Bafaria a Bale Dinas Llundain), roedd y cynhyrchiad arloesol yn ymdrech gymunedol gydweithredol. Llenwyd y prif rannau gan ddawnswyr proffesiynol, a chymerwyd y rolau cefnogol gan ddawnswyr, actorion a chantorion lleol, gyda cherddoriaeth gan Gerddorfa Siambr Cymru, sy’n uchel ei pharch.

 

Roedd y prosiect uchelgeisiol yn llwyddiant ysgubol, ac roedd Theatr Brycheiniog dan ei sang wrth i’r Nadolig nesáu. Ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf, mae Balé Gŵyl Aberhonddu yn bwriadu dychwelyd gyda sioeau newydd yn y dyfodol. Ewch i www.breconfestivalballet.com am ragor o fanylion.