Mae myfyrwyr sy’n astudio SSIE (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yng Ngholeg Bannau Brycheiniog – rhan o grŵp colegau NPTC – yn siarad â Stori Aberhonddu am fwydydd a ryseitiau sy’n bwysig i’w diwylliannau. Mae’r  ŵyl fwyd fechan anffurfiol hon yn cynnig mewnwelediad i bwysigrwydd coginio i’r cymunedau sy’n ffurfio hunaniaeth ddiwylliannol Aberhonddu.

Daeth pob myfyriwr â saig neu gynhwysyn sy’n nodweddiadol o’i wlad enedigol neu ei ddiwylliant. O ganlyniad cafwyd amrywiaeth blasus iawn o fwydydd, a gafodd eu mwynhau ar ôl gorffen ffilmio. 

 

Dywedodd y tiwtor SSIE, Jacqui Griffiths:

 

Mae mor bleserus i weithio gyda chymaint o ddysgwyr o bob rhan o’r byd, sydd â chymaint i’w gyfrannu o fewn ein cymunedau. Mae dysgwyr SSIE yn cychwyn eu taith fel unigolion, ac yn fuan maen nhw’n datblygu grwpiau o gyfeillion gwerthfawr.

Roedd Jacqui wrth ei bodd fod ei grŵp hi o ddysgwyr wedi defnyddio thema bwyd i greu’r ffilm hon i Stori Aberhonddu. Mae’n symbol mor gref o hunaniaeth ddiwylliannol, ac eto i gyd yn brofiad a rennir â phawb. Mae’r stori’n amlygu rhannu seigiau a chynhwysion gwahanol leoedd, sy’n cynrychioli rhywbeth arbennig i bob cyflwynydd.

Yn cael eu hamlygu yn y Stori mae –

Jacqui Griffiths yn cyflwyno bwyd a wnaed gan Lil Pun o Nepal  = Sel Roti 

Rully Stammers o Indonesia = cyrri cig eidion redang, reis Jasmine, crempogau llysiau a samosas.

Magdalena Falkiewicz o Wlad Pwyl = ciwcymerau wedi’u piclo, a sauerkraut

Mohammed Khalaf o Syria = coffi Arabaidd a chrempogau melys Syria.

Jolanta Przytulska o Wlad Pwyl = mêl dant y llew a chacen crymbl Bwylaidd.

Am fanylion cyrsiau SSIE cysylltwch â Jacqui Griffiths 0330 818 8346 neu Joanne Howells  0330 818 8408

Ngholeg Bannau Brycheiniog