Mae’n un o storïau mwyaf bythol Aberhonddu: ‘Cafodd Capel y Plough ei enwi ar ôl tafarn a arferai fod ar y safle yma.’

Mae’n stori sydd wedi adleisio drwy’r canrifoedd, ac yn enw gafodd ei roi i ddilyniant o adeiladau.

Mae aelod o’r capel a chyn-ddarlledwr Glyn Mathias yn trafod hanes cynnar y capel, sy’n dyddio’n ôl i 1699.

Mewn fideo newydd i ‘Stori Aberhonddu’, mae e’n dweud : “Roedden nhw’n cwrdd mewn adeilad o’r enw ‘The Plough House’, a oedd â chysylltiad â thafarn. Rwy’n tybio y byddai’r dafarn yn ystafell ar wahân – roedd nifer dda o ystafelloedd yn yr adeilad”, eglura Glyn.
“Mae’n swnio’n rhyfedd ond ‘Y Plough’ yw’r enw sydd wedi bod ar y capel hwn ers dros dri chan mlynedd.”

Cafodd safle tafarn Y Plough ei gwerthu am bum swllt, er mwyn adeiladu lle i addoli yn 1697, yn ôl y Dr. W.S.K. Thomas, yn ei lyfr diddorol Georgian and Victorian Brecon . Cafodd yr adeilad ei gwblhau ddwy flynedd yn ddiweddarach a chael ei drwyddedu fel man i addoli. Ail-adeiladwyd y capel yn 1841, a galwodd papur newydd ‘Y Silwriad’ y lle yn ‘gapel newydd eang a hardd’.

The church organ at the Plough Chapel in Brecon Image cr explorechurches.org

Bu rhagor o adnewyddu ar raddfa eang ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae erthygl yn y Brecon and Radnor Express yng Ngorffennaf 1897 yn sôn am wasanaeth i ail-agor y capel, ac mae’n cynnwys llun o du blaen yr adeilad, ac yn ei alw’n ‘un o’r capeli harddaf yn y deyrnas’.

Aiff ymlaen i ddweud, ‘Mae’r trawsnewidiad, yn fewnol ac allanol, yn rhoi’r canlyniadau gorau o ran cynllunio, cyfleustra, cynhwysiad a chysur.’

Mae’n dweud hefyd: ‘Rydyn ni’n deall fod cyfanswm y gost dros £2,500.

Gellir gweld a gwerthfawrogi canlyniad y gwariant yma hyd heddiw.

Dywedodd aelod o’r capel, Beryl Gibson, ar ffilm ‘Stori Aberhonddu’ : “Rydych chi’n cerdded lawr Stryd y Llew yn Aberhonddu. Rydych chi’n meddwl, wel, wnawn ni ddim dod o hyd i ddim byd yma, ac yna’n sydyn mae’r gem gwych yma yn ymddangos pan fydd y drysau ar agor.”

Gyda dirywiad y capeli ar draws Cymru, a defnydd newydd yn cael ei wneud o hen adeiladau, dywed y gweinidog, Julie Kirby : “Mae’n beth da i addoli mewn capel a fu unwaith yn dafarn, yn hytrach nag yfed mewn tafarn a fu unwaith yn lle i addoli.”

Gallwch ddarllen mwy am hanes Y Plough yn y llyfryn ar-lein yma, a mwy am weithgareddau cyfredol ar eu gwefan eu hunain yma.

Mae Archifau Cyngor Sir Powys yn cynnwys nodiadau diddorol iawn am flynyddoedd cynnar Capel y Plough, a nifer o leoedd addoli Brycheiniog.

Gwefan Coflein – mae bas data Record Henebion Cenedlaethol Cymru (N.M.R.W.) hefyd yn cynnwys llawer o wybodaeth.

The interior of The Plough Chapel in Brecon, Wales cr explorechurches.org