A portrait of Kate Gedge, a lady with blonde short shoulder length hair wearing a bright blue jumper

Mae Kate Gedge o Ŵyl Baróc Aberhonddu yn sôn wrthym am sut mae’r digwyddiad wedi dod yn rhan annatod o’r sîn gerddoriaeth ryngwladol. Mae’n dweud wrthym pam mai’r dref farchnad Sioraidd hyfryd hon, wedi’i hamgylchynu gan fryniau a mynyddoedd y Bannau, yw’r lleoliad perffaith ar gyfer yr ŵyl, diolch i’w hysbryd annibynnol a’i chymeriad unigryw. Mae’r ŵyl, sy’n digwydd bob mis Hydref, yn denu cerddorion baróc o bedwar ban byd i’r dref am benwythnos o berfformiadau. Os nad ydych yn gyfarwydd â’r genre, mae cerddoriaeth baróc yn deillio o gyfnod penodol, ac mae iddi ei repertoire ei hun. Wedi’i pherfformio ag amrywiaeth o offerynnau – rhai ohonynt yn eithaf anarferol – mae iddi sain unigryw, ffres a bywiog.

Dwi’n caru Aberhonddu. Mae’n lle arbennig iawn, ac alla i ddim dychmygu bod yn unrhyw le arall.

Sefydlwyd yr ŵyl gan Rachel Podger, artist baróc rhyngwladol sy’n byw yn Aberhonddu, a’i phartner Tim Cronin. Fel cyfarwyddwr artistig, mae Rachel yn gwahodd cerddorion baróc byd-enwog i Aberhonddu i berfformio gyda hi mewn nifer o leoliadau arbennig, gan gynnwys Theatr Brycheiniog, Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, Capel yr Aradr a Choleg Crist. Ochr yn ochr â’r ymwelwyr mawreddog, mae’r ŵyl hefyd yn rhoi cyfleoedd i gerddorion lleol gymryd rhan – ac mae yna hefyd raglen amrywiol o areithiau a theithiau tywys i’w mwynhau. I Kate, mae’r ŵyl yn ffordd wych o frolio’r dref sydd wedi bod yn gartref iddi ers 20 mlynedd.

Gwrandwch ‘mlaen i glywed gweddill ei stori.