Gurkha soldiers proudly parade in Brecon

Daeth cannoedd o bobl ynghyd i ganol tref Aberhonddu i wylio 37fed Parêd Rhyddid Gurkhas Aberhonddu

Yn ystod y digwyddiad mae’r milwyr Gurkha lleol yn gorymdeithio drwy’r dref, i nodi eu hawliau fel dinasyddion anrhydeddus.

Yn ystod y prynhawn gwelwyd hefyd arddangosfa liwgar o gerddoriaeth a dawnsio Nepalaidd.

 

 

Brecon’s Mayor, Cllr David Meredith noted that Gurkhas had served with the British Army for more than two centuries with some soldiers coming to Brecon in 1974.  The Gurkha Wing (Mandalay) is based in Dering Lines on the eastern edge of the town. 

Brecon's Mayor addresses the Gurkha Mandalay Wing regiment in Brecon

 

 

Dywedodd Maer Aberhonddu, y Cynghorydd David Meredith, fod y Gurkhas wedi gwasanaethu gyda’r Fyddin Brydeinig am dros ddwy ganrif, a daeth rhai milwyr i Aberhonddu ym 1974. Mae’r Asgell Gurkha (Mandalay) wedi’i lleoli yn Dering Lines, ar ochr ddwyreiniol y dref.

dancers perform at the annual Gurkha Parade in Brecon town, Wales. UK

Mae hefyd tua chant o deuluoedd Nepalaidd yn byw yn Aberhonddu a’r cyffiniau. Dywedodd y Cyng. Meredith, “Mae’r teuluoedd hyn a’u plant wedi rhoi dimensiwn newydd i’n cymdeithas, ac rydych chi i gyd yn cyfrannu cymaint i’n cymuned”

“Ni yw’r lle cyntaf un yn y Deyrnas Unedig i efeillio â lle yn Nepal – rhywbeth yr wyf i’n bersonol yn falch iawn ohono. Mae’n uno ymhellach ein perthynas â’ch cwmni a’ch teuluoedd yma yn Aberhonddu.”

Siaradodd llysgennad Nepal i’r Deyrnas Unedig, Gyan Chandra Acharya, am bwysigrwydd y diwrnod. Dywedodd, “Mae’n wir yn bleser a braint i mi i gymryd rhan ym Mharêd Rhyddid Gurkha 2022, sydd nawr wedi dychwelyd ar ôl y Pandemig Covid-19. Rwy’n falch o weld ei fod wedi’i drefnu mewn modd dwys ac ysblennydd, gyda chymaint o aelodau’r gymuned yn cymryd rhan.”

Mae’n fater o falchder mawr i ni i’ch gweld chi i gyd yn bresennol yma heddiw i gymryd rhan yn y digwyddiad arbennig hwn.”

Gurkha soldiers are proud to be based in Brecon town