Jazz ym mryniau Cymru, ewch amdani!

Y geiriau hyn sbardunodd y syniad i gynnal gŵyl gerddorol ryngwladol mewn tref farchnad fechan yng Nghymru wledig.. Lle’r oedd cynigion eraill i geisio denu mwy o ymwelwyr i’r dref a’r ardal heb lwyddo, aeth y gymuned yn Aberhonddu, Powys, De Cymru ati i feddwl am ffyrdd i ddenu ymwelwyr. 

Mae’r atgofion hyn am ddechreuad yr ŵyl gan Jean Hosie, a ddaeth yn weinyddwraig i’r ŵyl, yn disgrifio sut y cynlluniwyd yr ŵyl gyntaf. Gwahoddwyd artistiaid a lluniwyd rhaglen, a pherswadiwyd rhai o fusnesau’r dref i ymuno yn y fenter ac i ddarparu nifer o leoliadau addas dros benwythnos yn Awst. 

Mae’r dyfyniad uchod gan George Melly, cerddor jazz byd-enwog a oedd yn byw ychydig filltiroedd tu allan i Aberhonddu, mewn hen dŷ a thŵr ger yr afon Wysg.  Roedd George Melly ar ben y rhestr o bobl i gysylltu â nhw ynglŷn â’r fath fenter anarferol ac annhebygol. Awgrymwyd y syniad yn ystod trafodaeth rhwng cynghorwyr lleol a thrigolion o’r dref. Roedd un ohonyn nhw newydd ddychwelyd o Ŵyl Jazz Breda yn yr Iseldiroedd, Trefnwyd y dyddiad, gan mai dyna’r unig benwythnos yr oedd George Melly ar gael, a gydag ef yn cymryd rhan, byddai Humphrey Lyttleton a cherddorion jazz gwych eraill yn cytuno i deithio i’r gorllewin i fod yn rhan o’r ŵyl. Roedd y ddelwedd o fandiau yn gorymdeithio drwy dref Georgaidd yn addas ar gyfer Aberhonddu, a dros y degawdau ers 1984, rhoddodd Jazz Aberhonddu dde Cymru wledig ar y map, fel cartref a gydnabyddir yn rhyngwladol i bob math o jazz.

 

Mae Jean Hosie’n cofio sut y bu Tony Constantinescou, a awgrymodd y syniad, a Liz Elston y cadeirydd cyntaf a symbylydd yr ŵyl, ynghyd â Jed Williams, rhaglennydd jazz galluog, fod yn allweddol yn nechreuad a llwyddiant Jazz Aberhonddu. Daeth y dref ynghyd i greu profiad lliwgar ac unigryw sy’n para hyd heddiw ym mryniau Cymru.