Mae Band Cyngerdd Tref Aberhonddu wedi bod yn diddanu pobl yng nghanolbarth Cymru ac ymhellach i ffwrdd am dros hanner canrif, ac mae’n gwahodd aelodau newydd i ymuno â nhw er mwyn creu cerddoriaeth.

Mae’r grŵp yn cynnwys chwaraewyr offerynnau chwyth, pres ac offerynnau taro o bob lefel – o ddysgwyr i chwaraewyr proffesiynol, gydag ystod oedran o wyth i wyth deg. Mae’r rhaglen yn cynnwys ystod eang o gerddoriaeth.

Yn ogystal, mae rhai aelodau’n haeru y gallant gael rhai sydd ddim yn gerddorion i ddechrau canu offeryn o fewn chwe mis!

Rhannu eu cariad at gerddoriaeth gyda’r cyhoedd yw prif amcan y band. Maent yn cynnal sioeau yn Theatr Brycheiniog, mewn sioeau amaethyddol lleol, llwyfannau band, ar lan y môr, mewn gerddi ac yn Sgwâr Bethel. Mae’r cyfanswm yn rhyw ddau ddwsin o berfformiadau’r flwyddyn.

Ac mae’r ystod o gerddoriaeth yn syfrdanol!

“Rydym yn chwarae trefniannau o ganeuon pop, cerddoriaeth ffilm a theledu, cerddoriaeth lwyfan, cerddoriaeth glasurol, jazz a charolau Nadolig,” medd Dave Jones, yr arweinydd a’r cyfarwyddwr. “

 

O Abba i Wallace and Gromit, Elton John, Take That a Tchaikovsky.” (Gweler isod restr o’r darnau cyfredol.) Cynhelir rihyrsals yn Theatr Brycheiniog, o 7 – 9 o’r gloch ar nos Lun, gydag aelodau’r band yn chwarae cerddoriaeth hwyl ac yn cael amser da.

“Mae gen i agwedd siriol iawn”, medd Dave. “Ac rwy’n credu fod pobl yn gwerthfawrogi hynny. Dy’n ni ddim yn cymryd ein hunain ormod o ddifri, ond rydyn ni’n chwarae i safon dderbyniol iawn, ac ry’n ni’n cael hwyl.”

 

Felly, oes angen offeryn arnoch chi? “Nac oes. Os nad oes gennych chi offeryn, mae gennym ni rai,” medd Mavis, sy’n aelod o’r band. “Felly does dim i’ch rhwystro rhag dod aton ni, os nad ydych chi’n gwneud rhywbeth arall ar nos Lun. Os hynny, yna rwy’n awgrymu y dylech newid!”

“Rhowch gynnig arni”, medd Emma, sy’n aelod arall o’r band. “Beth sydd gennych i’w golli? Ry’n ni’n griw hyfryd iawn.”

Ac os ydych am gael band ar gyfer rhyw ddigwyddiad, cysylltwch â Dave Jones, i gael trafod ble a phryd.

Mae’r band wedi cyflwyno ystod o fideos, fel a ganlyn, wedi eu cydgynhyrchu gyda Stori Aberhonddu, ar You Tube:

Croeso i Fand Aberhonddu – Sioe Aberhonddu 2022 (Cerddoriaeth:Green Onions) 
Band ar log – Gŵyl Jazz Aberhonddu, Sgwâr Bethel 2022. Cerddoriaeth:Copacabana, Lady Marmalade.)
Amser a Theithio – y band o 1967 hyd nawr (cerddoriaeth: uchafbwyntiau Dr. Who)
Y Ddihangfa Fawr – ateb y band i’r cyfnod clo.

Neu galwch mewn i rihyrsal, o 7.00 o’r gloch ymlaen ar nos Lun yn Theatr Brycheiniog.

 

Cwrdd â’r Band

Cyfle i gwrdd â’r band, gwrando arnynt yn chwarae, siarad â nhw ynglyn ag ymuno, a rhoi cynnig ar ambell offeryn. Dydd Sadwrn, Tachwedd 12fed, 2022, yng Nghanolfan Gymunedol Llangors, LD3 7TR

Cyngherddau Carolau

Ymunwch yn ysbryd yr ŵyl yn sain carolau Nadolig, Rudolph the Red-nosed Reindeer, Do they Know it’s Christmas, All I want for Christmas is You, a llawer mwy!

Sgwâr Bethel, bob dydd Sadwrn yn Rhagfyr (3ydd, 10fed, 17eg, 24ain) rhwng 11.00 y bore a 1.00 y prynhawn.

Os ydych am wrando ar y band, eu llogi neu ymuno, e-bostiwch Dave Jones ar conductorbtcb@aol.com neu ffoniwch 07779 390954.

Gwefan y band yw https://wwwbrecontownband.com.

Beth mae’r band yn chwarae?

Yn ogystal ag ystod eang o gerddoriaeth Nadoligaidd.
Abba Gold
Africa
Aladdin (Music from)
Alley Cat
Amparito Roca
A-Team
The Avengers
Back to the Future
Batman Theme (Original)
Beauty and the Beast
Beguine Festival
Behind The Mask
Beyond The Sea
Birdland
Bonanza
Burning Love
Chicago
City of Stars
Come Fly With Me
Copacabana
Crazy Little Thing Called Love
Defying Gravity
Despacito
District of Columbia
Doctor Who (Theme)
Doctor Who (Highlights from)
Don’t Stop Me Now
Entry of the Gladiators
Epic Gaming Themes
Everybody Needs Somebody
Eye of the Tiger
Family Guy
Faroese Circle Dance
Feel It Still
Fiddler on the Roof
Formula One Theme
Frozen II (Music from)
Gabriel’s Oboe
Game of Thrones
Get Smart
Ghostbusters
Go West
God Only Knows
Greatest Showman (Highlights from)
Gonna Fly Now
Great Escape
Green Onions
Harlem Nocturne
Hawaii Five-O
I Drove All Night
I See You
Irish Party in Third Class
It Don’t Mean A Thing
It’s Not Unusual
James Bond Theme
Jump, Jive and Wail
Jurassic Park
La Bamba
Lady Marmalade
Lion King (Selections from)
LMR600 Gordon
Mambo No.5
Mas Que Nada
Mission Impossible
Moana (Highlights from)
Muppet Show Theme
A Night in Tunisia
One Moment in Time
Peter Gunn Theme
Pink Panther
Pirates of the Caribbean (Soundtrack highlights)
Puttin’ on the Ritz
Raiders of the Lost Ark Medley
Rain
Rhapsody in Blue
Rocketman (Highlights from)
Rock Around The Clock
Shrek (Medley from)
The Simpsons
Skyfall
Slumdog Millionaire (Music from)
Sogno di Volare
Something Stupid
Somewhere Out There
Soul Bossa Nova
Spiderman (Theme from)
St. Thomas
Suspicious Minds
Sweet Caroline
Take On Me
Tara’s Theme (from Gone With the Wind)
That's Entertainment
This Is Me
Walking on Sunshine
Wallace and Gromit
We Are The Champions
West Side Story
What A wonderful World
Wings of Freedom
Yakety Sax
Yesterday
You Can’t Stop The Beat

Yn ogystal ag ystod eang o gerddoriaeth Nadoligaidd.