Mae grŵp o gantorion a cherddorion o Aberhonddu wedi ymuno â sialens ryngwladol i godi ymwybyddiaeth o’r materion amgylcheddol sy’n cael eu trafod yn y trafodaethau COP26 yn Glasgow.

Mae’r grŵp wedi recordio ei fersiwn ei hunan o Enough is Enough, darn o gerddoriaeth a gyfansoddwyd i gorau, bandiau stryd a grwpiau cymunedol byd-eang i’w rannu a’i feddiannu.

Ar ôl chwe wythnos o ymarfer, mae’r grŵp wedi recordio ei fideo ei hunan o’r perfformiad, i’w chwarae ar-lein ynghyd â grwpiau eraill ar draws y byd.

Cychwynnwyd ymateb Aberhonddu i’r sialens fyd-eang gan Andy Hughes, aelod o Samba Aberhonddu a Taiko Mynydd Du – y grŵp Taiko cymunedol, neu grŵp drymio Siapaneaidd, cyntaf yng Nghymru.

“Bu’n fis o gynllunio, yn cynnwys rhoi’r syniad allan i grwpiau gwefannau cymdeithasol, yn gofyn i rai â diddordeb i gysylltu â fi”, meddai Andy, sy’n gweithio i Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Cyngor Sir Powys.

“Yna fe gawson ni chwe sesiwn unwaith-yr-wythnos yn Neuadd Subud Aberhonddu. Fe gawson ni gantorion a drymwyr, felly meddylion ni am fersiwn drymiau llwythol a lleisiol o’r gerddoriaeth.”

Wrth siarad ar ôl gwneud fideo o’r perfformiad, dywedodd Andy pa mor falch oedd e ac aelodau eraill o’r grŵp.
 

Ro’n i wrth fy modd. Roedd yn rhyddhad, ond ddim yn synnu fod popeth wedi dod ynghyd. Roedd yn cydio ac yn gwella yn ystod ymarferion.

Roedd symud ymlaen o’r cyfarfod cyntaf, lle nad oedd neb ohonon ni wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen, yn wych.

Cawson ni’n hysbrydoli gymaint gan y gân wreiddiol a’r bwriadau tu ôl i’r prosiect. Roedden nhw’n chwarae eu fersiwn eu hunain o Enough is Enough gan y canwr-gyfansoddwr Albanaidd Karine Polwart, menter gymdeithasol Oi Musica o Gaeredin, a Chôr Soundhouse o’r ddinas.

Ychwanegodd Andy, “Roedd hi’n galonogol iawn fod pobl yn fodlon i ddod at ei gilydd, gan eu bod nhw’n teimlo’n ddigon cryf y gallen nhw ychwanegi eu lleisiau, a dyna enynnodd eu diddordeb.”

Y cantorion a’r cerddorion o Aberhonddu oedd Andy Hughes, Ursula Frank, Joe Dagget, Ceri Hayes, Sally Scott, Ruth Morgan, Andrew Griffiths, Steve Bradshaw, Catherine Pape, Gwen Davies.