Mae Cyngor Tref Aberhonddu wedi gweithio’n ddiflino i wneud yr achlysur yma’n fwy ac yn well nag erioed. Gyda choblynnod panto yn grotto Siôn Corn, arth wen, dewiniaid a cherddoriaeth fyw drwy’r dref, cafodd cannoedd o bobl ddiwrnod gwych allan. Roedd stondinau crefft yng nghanol y dref ac yn neuadd y farchnad yn ychwanegiad at siopau annibynnol Aberhonddu ac yn wych ar gyfer prynu anrhegion Nadolig lleol. Ac ar ôl cynnwrf troi’r goleuadau ymlaen mae’r cyfan yn ddeniadol iawn, ac mae ysbryd yr ŵyl yma’n sicr. Rhoddwyd yr anrhydedd o droi’r goleuadau ymlaen i Brooke, a oedd wedi ennill Cystadleuaeth Cardiau Nadolig y Maer. Roedd y Maer, y Cyng David Meredith, yn bresennol gyda hi.

Mae masnachwyr y dref hefyd wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth addurno ffenestri, gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu i greu eu harddangosfeydd. Yr enillwyr oedd Moduron Aberhonddu, gyda’u golygfa aeafol hardd a’u dyn eira anferth wedi’u gwneud o deiars a ailgylchwyd!

Mae’n werth mynd i weld y goleuadau Nadolig a’r ffenestri – rheswm arall i siopa yn Aberhonddu y mis Rhagfyr hwn.
 

 

 

brecon with bells on 2022 Christmas window winner