Daeth cannoedd o bobl ynghyd yng Nghlos yr Eglwys Gadeiriol ar gyfer yr orymdaith drwy ganol y dref, ac a ddaeth i’w therfyn ger Theatr Brycheiniog. Roedd rhai pobl wedi treulio wythnosau yn paratoi at y diwrnod mawr, a daeth tîm o wirfoddolwyr ynghyd i drefnu’r digwyddiad.

I ddod â’r olygfa ysblennydd gerddorol i ganol y dref, croesawodd yr Orymdaith Frazz Mr. Toad, cymeriad o The Wind in the Willows. Yn gwmni iddo roedd Badger  a Mole a char Mr. Toad.

I ychwanegi at yr awyrgylch, arweiniwyd yr orymdaith gan y band Bass 12 Brass o Gaerdydd, gan roi adloniant i’r cannoedd o bobl a oedd allan ar y stryd.

Yng nghanol y dref roedd nifer fawr o stondinau bwyd a diod, gyda masnachwyr lleol  yn gwneud yn fawr o’u cyfle – gan ddarparu hefyd beth cysgod rhag yr haul tanbaid. Roedd canopïau pwrpasol yn cysgodi llawer o’r grwpiau cerddorol a oedd yn perfformio mewn gwahanol fannau, ac roedd sgrîn anferth wedi ei gosod yn y Bulwark. Ble bynnag yr oeddech chi, roedd y dref yn llawn cerddoriaeth.