Mae’r gymuned fach ond amlwg o bobl Nepal sydd yn Aberhonddu yn cynnwys rhai sydd wedi setlo yma – tua 70 teulu -  a’r rhai sydd wedi eu lleoli yma gan y Fyddin Brydeinig am ddeunaw mis neu ddwy flynedd. Fe siaradon ni â Guptaman Gurung a’i ferch, Garima, am eu profiadau.

 

Daeth Guptaman i Aberhonddu ddwywaith cyn ei dymor dyletswydd olaf, a’i harweiniodd i ymgartrefu yma. Fel eraill o’r Gurkhas, bu ef hefyd yn gwasanaethu yn Hong Kong a Brunei, yn ogystal â mannau eraill ym Mhrydain. Mae cymunedau mwy o Gurkhas yn Swydd Hampshire, Caint a Swydd Efrog. Mae Guptaman wedi bod yn weithgar o fewn ei gymuned ei hun gyda’r Gymdeithas Nepalaidd leol, ac o fewn y gymuned ehangach.

Ar y cyfan, maen nhw’n falch iddynt ddod i Aberhonddu, er bod hyn yn golygu eu bod yn cael llai o gymorth gyda materion fel cyfieithu nag a gaiff cymunedau Gurkha mwy o faint. I rai Gurkhas mae cefn gwlad Aberhonddu’n fanteisiol, ond mae llawer ohonynt fyddai wedi gorfod byw mewn dinasoedd yn Nepal ac ar draws y byd. Mae Guptaman yn dechrau drwy sôn wrthym am y modd y daeth ef a’i wraig i fyw i Aberhonddu, ac i ymddeol yma o’r diwedd “i’r lle hyfryd hwn.” Fel eraill o’i gymuned, mae e’n hoff iawn o ymweld â Nepal.

“Mae’n bwysig i gadw’n diwylliant yn fyw ac mae’r iaith yn rhan o hynny”

Fe siaradon ni hefyd â Garima am iaith a diwylliant. Mae hi’n siarad Saesneg a chryn dipyn o Nepali, ac mae’n adnabod rhai plant Nepali sy’n siarad tipyn o Gymraeg. Ond nid yw ei gwybodaeth o iaith Gurung ei rhieni yn dda iawn.

“Wn i ddim beth yw’r cemeg sy’n bodoli rhwng pobl Cymru a’r Gurkhas, ond maen nhw’n dod ymlaen yn dda iawn gyda’i gilydd.”

Mae’r gymuned Nepalaidd yn helpu ei gilydd ond maen nhw hefyd yn helpu o fewn y gymuned leol. Mae Llwybr y Gurkhas yn un enghraifft.

Roedd Guptaman yn allweddol yn sefydlu Llwybr y Gurkhas, a enillodd wobr, ar lannau’r afon Wysg ger y dref. Roedden nhw’n gweld hyn fel diolch am gyfraniadau hael pobl Aberhonddu i’r cymorth daeargryn yn 2015. Mae Guptaman a Garima yn gwybod pa mor bwysig yw cadw’u diwylliant, ond mae eu cysylltiadau â Nepal yn dibynnu fwyfwy nawr ar gysylltiadau fideo.

 

Mwynhewch wrando ar y cyfweliad llawn i gael gwybod mwy am gymuned Nepalaidd arbennig Aberhonddu.

“Bob yn hyn a hyn pan âf i lawr i’r De, byddaf yn teimlo’r awydd i ddychwelyd i’m cartref yn Aberhonddu. Rwy’n gweld eisiau Aberhonddu yn fawr.”