Bu llawer sialens yn ystod y flwyddyn 2020, gan gynnwys sialensau i’n sefydliadau treftadaeth a diwylliant yn Aberhonddu, ac i’r bobl sy’n mwynhau’r mannau hyn. Fodd bynnag, un o ddigwyddiadau cadarnhaol y flwyddyn oedd recordiad gweledol a sain yng Nghadeirlan Aberhonddu gan feiolinydd yn chwarae darn o gerddoriaeth gan y gyfansoddwraig Hilary Tann, yn dwyn yr enw ‘Y Garreg Gresed.’

Cafodd y recordiad ei wneud ym mis Rhagfyr, ac roedd diffyg cynulleidfa, ac unigrwydd y feiolinydd, Mary Hofman, yn chwarae yng ngoleuni 30 o ganhwyllau yn y Garreg Gresed yn brofiad amheuthun a theimladwy.

Mae’r darn ‘Y Garreg Gresed’ yn fyfyrdod ar garreg a golau, ac mae’n cychwyn a gorffen mewn llonyddwch. Mae’r rhannau canol yn cynnwys cyfeiriadau at Kyrie terfynol siant Gregoraidd o’r unfed ganrif ar ddeg.

Cyfansoddodd Hilary Tann ‘Y Garreg Gresed’ yn Rhagfyr 1993, o ganlyniad i gomisiwn gan gyfarwyddwr Gŵyl Gerdd Llanandras, George Vass, gyda chyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru ac Offerynnau Llinynnol Amadeus. Perfformiwyd y darn gyntaf ym Medi 1994, gan Krzysztof Smietana, yng Ngŵyl Llanandras. Er i’r darn gael ei berfformio droeon ers hynny, nid oedd wedi cael ei berfformio erioed yng Nghadeirlan Aberhonddu.

Y feiolinydd Mary Hofman

Mae Hilary’n cofio haf 1993, a hithau wedi gyrru ei rhieni i Aberhonddu ar gyfer cinio Sul yng Ngwesty’r Wellington. Fe gerddon nhw wedyn drwy’r dref a gyda’r afon ac i fyny i’r gadeirlan. Bryd hynny y gwelodd hi’r Garreg Gresed. Roedd Hilary wastad wedi ymddiddori mewn cerrig, creigiau a chlogwyni, ac roedd ei mam yn ddaearegydd amatur. Wrth sefyll ger y garreg fawr, dychmygodd sut fyddai’r garreg yn edrych pan oedd yn cael ei defnyddio i oleuo – yr unig ddull o oleuo.

Denwyd Hilary gan y gwrthgyferbyniad rhwng natur solet, dywyll, oeraidd y garreg sefydlog a natur lachar, symudol, grynedig y fflam. O’r profiad hwn y tyfodd y syniad am y darn cerddoriaeth. Dychwelodd i’w choleg yn yr Unol Daleithiau i ddysgu dros dymor yr hydref, ac yna cafodd amser i gyfansoddi cyn cychwyn tymor y gaeaf. Mae’r rhannau am y garreg yn fyfyriol eu natur, ac yn isel ar yr offeryn; mae rhai rhannau’n talu gwrogaeth i lenyddiaeth solo’r ffliwt fambŵ Siapaneaidd, y shakuhachi. Mae’r rhannau am y fflam yn dyrchafu drwy’r nodau, ac mae dwy ran sy’n cynnwys nifer o gydgordiau ffidil, ac mae’r fflam fel pe bai’n dawnsio. Mae’r cymalau a ysbrydolwyd gan y Kyrie yn cydnabod fod yr alcemeg hwn rhwng carreg a fflam yn digwydd o fewn i gadeirlan garreg hynafol, lle i addoli a gweddïo. Wrth i’r darn orffen, mae’r fflam yn diffodd, ond deil y garreg yn gynnes fel atgof o’r cyfarfyddiad rhwng fflam a charreg. Dywed Hilary, “Ydy, mae’r darn am garreg a golau, ond mae hefyd yn fyfyrdod ar fath o gariad.”

Cychwynnodd y cydweithredu rhwng y feiolinydd Mary Hofman a Hilary Tann pan gomisiynodd Mary waith ganddi yn 2019, i’w berfformio fel rhan o brosiect am Beethoven mewn clybiau cerddoriaeth ar draws Cymru yn 2020. Roedd y gwaith ‘Golau Cyntaf’ yn fyfyrdod hardd ar ddegfed sonata Beethoven i’r ffidil. Y bwriad oedd i berfformio’r darn yma ac acw yng Nghymru yn 2020, a hefyd i wneud recordiad gyda Tŷ Cerdd ar gyfer ei ryddhau ym Medi 2020. Ni ddigwyddodd yr un o’r rhain, a datblygodd y syniad am recordio’r ‘Garreg Gresed’.

Gwyddent y gallai recordiad ar ffilm yn y gadeirlan fod yn rhywbeth hardd a phwerus. Gwireddwyd y gobaith y byddai’n bosibl i oleuo’r garreg, sy’n 1000 o flynyddoedd oed, a’i chael yn ganolbwynt i’r perfformiad, drwy gymorth Deon y Gadeirlan a Stephen Power, cyfarwyddwr cerdd y gadeirlan.

Wrth gyfweld â Mary Hofman, dywedodd, “Roedd yn brofiad gwefreiddiol i chwarae yn y  gadeirlan fy hunan (dim ond fi a dau berson yn ffilmio); y golau fflachiog ar olion y cŷn ar y garreg yn gwneud i chi feddwl am ddwylo’r bobl a’u cerfiodd; yr acwstig anhygoel; y syniad o fychander mewn gofod ac mewn hanes. Teimlai fel pe bai’r gerddoriaeth yn cael haenau a haenau o ystyron ychwanegol. Mae’r darn i gyd am olau a thywyllwch, carreg a symudiad. Mae’n arbennig o addas ar adeg fel hyn.”

Mae’r gair ‘cresed’ yn dod o’r hen Ffrangeg ‘craicet’, ‘craisset’ neu ‘cresset’, ac yn golygu cwpan metel neu ddeunydd arall, wedi ei rwymo wrth bolyn i ffurfio lantern y gellid ei chario. Carreg wastad oedd ‘carreg cresed’, gyda thyllau siâp cwpan ynddi, a phob twll yn cynnwys gwêr a phabwyr ar gyfer goleuo. Byddent yn cael eu cynnau yn yr eglwys am hanner nos, pan fyddai’r mynachod yn dod i’r addoliad plygeiniol. Roedd yn beth cyffredin hefyd i weld cerrig fel hyn ger drysau neu gorneli, lle byddai’n rhaid i bobl fynd heibio i’w gilydd, ac ym mannau cysgu’r mynachod. Roedd hwn yn ddull cyffredin o oleuo eglwysi yn y canol oesoedd. Er bod rhyw dair ar ddeg o gerrig cresed i’w gweld mewn gwahanol leoedd yn Lloegr, carreg Aberhonddu yw’r unig un y gwyddom amdani yng Nghymru, a hi yw’r orau a ganfyddwyd hyd yn hyn. Mae’r garreg, sy’n 15cm o ddyfnder, yn cynnwys 30 o ‘gwpanau’ , wedi’u trefnu mewn pum rhes gyfochrog, gyda 6 chwpan ym mhob rhes (14 yn fwy o gwpanau nag a welir yng Nghadeirlan Caerliwelydd, lle mae’r fwyaf o’r cerrig cresed eraill). Mae wedi ei gwneud o garreg leol, sydd wedi’i lamineiddio mewn dau le, o ganlyniad efallai i gael ei tharo.