Mae Stori Aberhonddu wedi cael grant o £10,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a fydd yn gymorth i gysylltu cymunedau â’r dreftadaeth sydd ar stepen eu drws. Bydd yn cefnogi pobl leol i ddysgu sgiliau digidol newydd, i frwydro yn erbyn unigrwydd cymdeithasol ac i adeiladu archif o dreftadaeth y dref.
Bydd hefyd yn creu cynnwys digidol i hybu’r dref ar gyfer ymwelwyr ac i gynorthwyo’r economi leol. Bydd fideos, lluniau, cyfweliadau ac erthyglau digidol yn cael eu rhannu ar wefan y grŵp cymunedol : breconstory.wales, ac ar wefannau cymdeithasol.            
Mae’r grŵp hefyd yn cynllunio map digidol o adeiladau hanesyddol Aberhonddu, busnesau ac atyniadau ymwelwyr. Bydd yn cynnig taith rithiol o’r dref i ymwelwyr posib o bob cwr o’r byd, dan faner CERDDED: Stori Aberhonddu.
                    
Fe fydd hefyd fersiwn ffôn-symudol i’r rhai a ddaw i ymweld, p’un a ydyn nhw’n dwristiaid neu drigolion canolbarth Cymru sydd am wybod mwy am orffennol Aberhonddu.

     
Mae cyllid ar gyfer y cynllun yn dod oddi wrth CADW, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.. Mae’n un o gyfres o ‘Grantiau Treftadaeth 15 Munud’, sydd wedi cael ei seilio ar syniad a elwir ‘y ddinas 15 munud’, lle ‘gellir cyflawni’r mwyafrif o angenrheidiau dyddiol naill ai drwy gerdded neu seiclo o gartrefi’r trigolion’
Mae prosiect Stori Aberhonddu wedi deillio o waith gafodd ei wneud gan Rwydwaith Treftadaeth a Diwylliant Aberhonddu, a ddaeth a nifer o gyrff blaenllaw’r dref at ei gilydd.

    
Croesawodd Elizabeth Jeffreys, a fu’n helpu i sefydlu’r rhwydwaith, y gefnogaeth hon, gan ddweud :

Brecon Story's Management committee celebrating their grant award

Funding for the scheme comes from Cadw, the Welsh Government’s historic environment service and the National Lottery Heritage Fund.  It is one of a series of so-called ‘15 Minute Heritage Grants’. They are based on an idea called the 15-minute city where ‘most daily necessities can be accomplished by either walking or cycling from residents' homes’.

The Brecon Story project has grown out of work done by the Brecon Heritage and Cultural Network which brought together many of the town's leading organisations. Elizabeth Jeffreys, who helped found the network, welcomed the support, saying:

 “Rwy’n ddiolchgar iawn i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith arloesol hwn. Mae Aberhonddu’n dref hynafol gyda threftadaeth gyfoethog o asedau archeolegol a diwylliannol. Rydyn ni i gyd mor falch o’r amgylchedd sydd gennym ni yn y gymuned hardd hon. Mae’r grant yma’n ‘anrheg Nadolig’ fydd yn dal i roi wrth i ni rannu mwy o storïau Aberhonddu gyda’n cymuned a’r byd ehangach.”

Brecon Story records Brecon's history, heritage and culture

Mae’r grant yn dod ar adeg bwysig i waith arall sy’n cael ei wneud i ddathlu’r hyn sydd gan Aberhonddu i’w gynnig. Mae busnesau annibynnol lleol sy’n gweithio dan faner y ‘Brecon Buzz Community Interest Company’ yn arbennig o falch o’i dderbyn.
Dywedodd Punch Maughan, cyfarwyddwr ‘Brecon Buzz’ a’r un a greodd Galeri Found: 

“Mae cael yr arian yma yn dod ar adeg amserol iawn, gan fod ‘Brecon Buzz CIC’ yn cwblhau arolwg o arwyddion, gwybodaeth am gerdded a gwybodaeth ymwelwyr ar gyfer Aberhonddu yn y flwyddyn newydd. Mae arolwg Buzz yn cyfeirnodi’r prosiect yma a bydd y raddfa amser yn golygu y bydd argymhellion yr adroddiad yn gallu cwmpasu’r fenter gyffrous yma. Busnesau annibynnol lleol yw asgwrn cefn ein tref, ac mae hyn i gyd yn ychwanegi at fywiogrwydd ein cymuned ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr.”

Rhan hanfodol o brosiect Stori Aberhonddu yw i gefnogi pobl a busnesau lleol i ddysgu’r sgiliau digidol sydd eu hangen i greu cynnwys i ddefnyddwyr ar-lein.
Dywedodd Julia Blazer, Cyfarwyddwr Reolwr y busnes gweithgareddau a digwyddiadau Good Day Out, a Chydgysylltydd Gwerthiant Digidol Stori Aberhonddu:
“Mae Stori Aberhonddu eisoes wedi cynnig dwsinau o sesiynau hyfforddi i wirfoddolwyr, busnesau lleol, a phobl leol sydd â chariad at ein cymuned anhygoel. Byddem yn falch iawn o glywed am fwy o bobl sydd am fanteisio o’r cymorth hwn. Cliciwch ar ein gwefan breconstory.wales i gael rhagor o fanylion am gyrsiau fydd ar gael yn y flwyddyn newydd.”    
Mae Stori Aberhonddu yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr, ac mae’r rhan ‘llwybr treftadaeth’ wedi deillio o syniad gan Andy Collinson, a symudodd i Aberhonddu yn ddiweddar. Mae Andy wedi’i synnu gan faint o hanes a threftadaeth sydd i’r dref fach hon. Fe ddywedodd e: “Rwy’n ysu i ddechrau helpu ac ymchwilio, mapio a chofnodi safleoedd prif gofebau a threftadaeth Aberhonddu. Rwy’n gwybod fod llawer mwy o bobl leol a fyddai’n falch o fod yn gysylltiedig â’r prosiect, ac rwy’n eu hannog i gysylltu â ni. Mae gan lawer o bobl storïau am Aberhonddu a’i gorffennol, ac mae croeso i eraill sydd â sgiliau technegol neu sydd am ddysgu i ymuno â ni.

National Heritage Lottery and Cadw joint lockup logo

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: 

“ Yng Nghymru cawn ein hamgylchynnu gan dreftadaeth, nid yn unig mewn amgueddfeydd, cestyll ac adeiladwaith hanesyddol, ond gan unrhyw beth sy’n ysbrydoli synnwyr o berthyn. Rw i mor falch fod CADW unwaith eto yn cydweithio â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo cymunedau i archwilio, dathlu a rhannu eu storïau treftadaeth lleol – a fydd gobeithio yn cryfhau eu synnwyr o gymuned a pherthyn.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae treftadaeth i bawb, ac mae treftadaeth leol, p’un a yw’n adeilad, tirnod, gwarchodfa natur neu hyd yn oed y siop leol, yn gymorth i greu a ffurfio’n cymunedau. Mae wedi bod yn bleser eto eleni i weithio gyda CADW ar y ‘Gronfa Treftadaeth 15 Munud’, ac i gefnogi hyd yn oed fwy o gymunedau ar draws Cymru i gysylltu â’u treftadaeth leol. Mae’n rhaglen boblogaidd iawn, ac rydym wedi ariannu dros 120 o brosiectau ar hyd a lled y wlad dros y ddwy flynedd ddiwethaf drwy gyfrwng y rhaglen ‘Treftadaeth 15 Munud’, ac rydym wedi darparu dros £6000,000 mewn grantiau.”