Gwahoddir teuluoedd lleol ac ymwelwyr i wneud taith gerdded newydd o amgylch rhai o fannau hanesyddol y dref.

Mae ‘Stori Aberhonddu’, y grŵp hanes lleol a diwylliannol gwirfoddol, wedi cyhoeddi a phrintio taith ar-lein o fannau allweddol yn hanes y gymuned dros bron i fil o flynyddoedd.

Ac maen nhw’n gwahodd pobl i ymuno â nhw ar daith gydag arweinydd ar y llwybr treftadaeth, gan ddechrau tu allan i’r Guildhall am 2.00 y prynhawn, ar ddydd Sul, Mehefin y 4ydd. Bydd y daith yn cael ei chychwyn gan y Maer, y Cyng. Michaella Davies.

Ganwyd ‘CERDDED: Stori Aberhonddu’ yng nghanol y cyfnod clo. Cafodd ei symbylu a’i gefnogi gan Y Gronfa Treftadaeth 15 Munud gan CADW a Threftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n helpu i ddarganfod hanes a phensaernïaeth lleol sy’n bodoli o fewn 15 munud i’n cartrefi.

Dywedodd Liz Jeffreys, a fu’n gymorth i sefydlu Stori Aberhonddu,

 

 

Mae llawer o bobl leol yn ymddiddori yn hanes y dref – ac maent yn hynod falch o’i gorffennol nodedig a chyfoethog.

Felly rydyn ni wedi bod yn pori drwy hen lyfrau ac archifau papur newydd i geisio cael mewnolwg i’r bobl a’r lleoedd sydd wedi ffurfio ein cymuned dros y mileniwm diwethaf

Ond ‘drafft cyntaf’ yw hwn o CERDDED:Stori Aberhonddu. Rydym nawr am ychwanegi y llu o atgofion amrywiol gan y rhai sydd wedi treulio eu bywydau yn byw a gweithio yn ein cymuned wych

 

Ychwanegodd Deon Aberhonddu, y Gwir Barchedig Paul Shackerley, ei werthfawrogiad, gan ddweud,

Rydyn ni’n ddiolchgar i CADW, Cronfa Treftadaeth y Loteri, a chwaraewyr y Loteri am eu cymorth wrth i ni gyflwyno’r prosiect i bobl Aberhonddu.

walk the brecon story

 

Gwnaeth Andy Collinson, newyddiadurwr wedi ymddeol, lawer o’r gwaith ymchwil ac ysgrifennu ar gyfer y daflen arweiniad, yn ogystal ag adeiladu ‘taith rithiol’ Google Earth o’r daith, y gellir cael mynediad iddi gan ddefnyddwyr y We ar draws y byd. 

Rwyf wedi bod yn dod i Aberhonddu fel newyddiadurwr ers y 1980’au, felly mae wedi bod yn bleser i ymddeol yma a threulio cymaint o amser yn darganfod hanes gwefreiddiol y dref.

Bu’n wir fraint i gael cymorth a chyngor cymaint o arbenigwyr lleol sydd wedi bod yn ymchwilio i’r hanes am ddegawdau. 

Maent wedi bod yn hael iawn gyda’u gwybodaeth a’u hamser ac rwy’n wir ddiolchgar iddyn nhw am eu mewnbwn wrth i’r prosiect ddod i drefn.

 

Cafodd y cynllun hwb fawr, gan i Punch Maughan o Galeri’r Found, a grŵp Buzz Aberhonddu, sef grŵp o fusnesau annibynol lleol, gael grant gan Brilliant Basics. Aeth rhan o’r grant tuag at sicrhau arwyddion llwybr a hefyd i wneud yn siwr fod placiau hanesyddol y dref yn cael eu glanhau. Mae’r prosiect wedi bod yn werthfawr iawn i ymwelwyr i ffeindio’u ffordd o gwmpas Aberhonddu ac i ddarganfod rhagor o’i hanes.

Fe weithion nhw’n agos gyda Stori Aberhonddu a phartneriaid eraill, gan gynnwys ‘Ymwelwch ag Aberhonddu’, i sicrhau unffurfiaeth mewn arwyddion a delwedd y teithiau. Fe gyfunon nhw’r gwaith yma gyda chynlluniau i gynyddu harddwch y gymuned i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd

Mae gennyn ni gymuned fywiog, unigryw, yr ydyn ni am ei rhannu a’i dathlu mewn modd cynaliadwy, sy’n hybu’n economi leol ac yn sicrhau swyddi a fydd yn cadw’r bywiogrwydd yma i’r dyfodol

Mae’r cydweithrediad yma yn dangos grwpiau’n gweithio gyda’i gilydd i gael canlyniadau positif i bawb sy’n byw, gweithio ac sy’n malio am Aberhonddu.

 

Mae Punch wedi helpu i ddatblygu a chodi nifer o arwyddion i arwain cerddwyr o gwmpas taith treftadaeth CERDDED:Stori Aberhonddu, a theithiau lleol eraill.

Mae’r ffotograffydd lleol adnabyddus Zoe Mathias wedi bod yn helpu i greu delweddau o safon uchel o’r prif leoliadau hanesyddol o gwmpas y dref. Maen nhw wedi cael eu defnyddio yn y prosiect ac i gefnogi cyrff lleol eraill sydd am ddangos harddwch y gymuned.

“Ro’n i’n meddwl fy mod i’n nabod Aberhonddu’n go dda, ond mae wedi bod yn hyfryd i weld y lle’r wy’n ei garu gyda llygaid newydd – a gwybod bod y prosiect yma yn helpu i ddathlu ein diwylliant a’n hanes.”

“Rwy’n edrych ymlaen at ychwanegi at y casgliad o luniau  drwy gydol yr haf, er mwyn dangos mwy o enghreifftiau o’r hyn sy’n gwneud Aberhonddu mor arbennig.”

Julia Blazer, sefydlydd y gweithgareddau Good Day Out a busnes digwyddiadau a Chydgysylltydd Marchnata Digidol Stori Aberhonddu, fu’n ymdrin â’r broses gymhleth o gynhyrchu mapiau printiedig sydd nawr ar gael o Ymwelwch ag Aberhonddu, Y Gaer, Y Galeri Luniau, y Llyfrgell, y Gadeirlan a mannau eraill o gwmpas y dref.

“Mae’n wych i weld fod gofyn am y mapiau yma eisoes gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

“Dechreuodd hyn fel syniad bychan, ond mae wedi tyfu i rywbeth yr ydym i gyd yn falch ohono. Bydd yn wych i weld sut y gallwn ni ddatblygu ymhellach drwy ychwanegi lluniau ac atgofion pobl leol, ac i adeiladu cyfres gyfoethog ac amrywiol o erthyglau ar Stori Aberhonddu.”

Gellir cael mynediad o breconstory.wales/walk i’r daith treftadaeth Google Earth. Mae’r tecst llawn o’r daith, gyda llawer o luniau hyfryd o’r dref yn y gorffennol a’r presennol, ar gael hefyd ar y wefan.

Walk: The Brecon Story heritage walk