
Ers agor ym 1997, mae Theatr Brycheiniog wedi bod wrth galon sîn ddiwylliannol lewyrchus Aberhonddu. Wedi’i leoli ym masn bywiog y gamlas, mae’n lleoliad o gerddoriaeth fyw, theatr, dawns a phob math arall o gelfyddyd y gallech feddwl amdano. Mae rhaglen lawn dop Theatr Brycheiniog yn cynnwys sioeau teithiol, cerddorion a chomediwyr a chynyrchiadau lleol fel perfformiad cyntaf Ballet Gŵyl Aberhonddu o ‘The Nutcracker’ dros y Nadolig, pantomeim blynyddol y Westenders a chynyrchiadau gan Brecknock Little Theatre. Mae hefyd yn gartref i’r Ŵyl Baróc bob mis Hydref ac yn un o’r lleoliadau allweddol yng Ngŵyl Jazz fyd-enwog Aberhonddu bob mis Awst. Ochr yn ochr â’r gofodau perfformio, fe welwch Oriel Andrew Lamont, sy’n gartref i raglenni newidiol o arddangosfeydd celf gyda gwaith o Gymru a phob cwr o’r DU.
Cei’r Gamlas, Aberhonddu LD8 7EW
01874 611622