Digwyddodd Brwydr Agincourt ar 25 Hydref 1415 yng ngogledd Ffrainc. Mae’r stori am luoedd Harri’r Pumed yn trechu byddin fawr o Ffrainc yn adnabyddus yn hanes gwledydd Prydain ac wedi ysbrydoli cerddi a dramâu drwy’r oesoedd. Nid yw rôl Aberhonddu a’i phobl yn y frwydr mor amlwg. Dywedwyd mai ‘saethyddion Cymru enillodd y frwydr i Harri’r Pumed’.

Er bod yr adroddiadau hanesyddol yn amrywio, mae’n ffaith bod 500 o saethyddion a 23 o filwyr wedi teithio o Gymru i Ffrainc i ymladd ochr yn ochr â’r brenin. O'r grŵp hwn, roedd 10 milwr, 13 o saethyddion ar gefn ceffyl a 146 o draed-saethyddion yn dod o ardal Aberhonddu. Mae cysylltiadau’r dref ag Agincourt i’w gweld chwe chanrif yn ddiweddarach yng nghadeirlan hanesyddol Aberhonddu. Un atsain o’r gorffennol pell yw’r ffenestr liw hyfryd yn aden ddeheuol y gadeirlan, sy’n dangos Syr Roger Vaughan o Bredwardine, bonheddwr a ymladdodd gyda Harri’r Pumed yn Agincourt. Syr Roger oedd mab-yng-nghyfraith Dafydd ap Llewelyn ap Hywel, bonheddwr arall a wnaeth y daith i Ffrainc.

Dafydd Gam (enw a ddefnyddiwyd i olygu ‘cloff’ neu ‘anffurfiedig’) ydoedd i bawb, ac roedd yn fradwr i lawer yng Nghymru oherwydd ei wrthwynebiad i Owain Glyndŵr. Yn ôl y chwedl, bu farw Roger a Dafydd yn Agincourt yn amddiffyn y brenin, ac urddwyd y ddau ar faes y gad i gydnabod eu haberth.   Ond nid dim ond arglwyddi a brenhinoedd sy’n rhan o stori Agincourt. Byddai llawer o’r Saethyddion a ymunodd â byddin Harri wedi bod yn werinwyr. Er nad ydym yn gwybod llawer am eu bywydau, gallwch weld eu henwau o hyd ar replica o’r indentur (contract yn rhestru’r dynion a’r bechgyn a aeth i ryfel) sydd ar ddangos. yng Nghadeirlan Aberhonddu. Mae’r
garreg hynafol, a ddefnyddiwyd gan saethyddion Aberhonddu i hogi eu saethau yn ôl y sôn, hefyd ar ddangos. Mae Sgubor y Degwm hefyd yn gartref i garreg hynafol a ddefnyddiwyd gan saethyddion Aberhonddu i hogi eu saethau yn ôl y sôn. I ddysgu mwy am stori saethyddion Cymru ewch i agincourt600wales.com

www.breconcathedral.org.uk