I ddathlu Dydd Rhyngwladol y Gwragedd, mae’n addas i ni dyrchu i hanes Aberhonddu, a thynnu sylw at wraig ysbrydoledig anhygoel a geisiodd chwalu ffiniau cymdeithasol benywod yn ystod ei hoes, drwy roi dewrder a chreu cyfleoedd i wragedd yn lleol, yn genedlaethol a hyd yn oed yn fyd eang. Mae Gemma Schiebe wedi bod yn ymchwilio i fywyd Gwenllian Morgan, ac mae’n siarad â’r Cynghorydd Marie Matthews am ei phrofiadau fel cynghorydd tref nawr, yn ogystal â’r effaith a gafodd Gwenllian Morgan a’i chymynnaeth.
Ganwyd Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan ym Mhenpentre, Defynnog, ar y 9fed o Ebrill, 1852. Wrth dyfu lan mewn mannau gwledig, gwyddai Gwenllian Morgan am y synnwyr o ofal a chefnogaeth a geir mewn cymunedau clos. Daeth â hyn gyda hi pan symudodd i 2 Buckingham Place, Aberhonddu yn dilyn marwolaeth ei thad yn 1868. Roedd Gwenllian yn hoff o ddysgu ac ymchwil. Roedd hi’n hynafiaethydd a chyhoeddodd lyfrau am ei meysydd astudio, ac roedd ganddi ddiddordeb mawr yn hanes ei thref a’i sir. Roedd hi’n wraig gwbl anhunanol ac wedi ymroi i les eraill ac i helpu’r rhai mewn angen, a denodd ymddiriedaeth y bobl. Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, pasiwyd deddf a olygai y gallai gwragedd fod yn gymwys i sefyll am y tro cyntaf ar gyfer llywodraeth leol. Gwelai pobl Aberhonddu Gwenllian Morgan fel ymgeisydd addas. Ym 1907 arwyddodd nifer fawr o bobl leol lythyr yn gofyn ar Gwenllian i sefyll fel ymgeisydd etholiadol. Roedd hyn bron yn rhywbeth cwbl newydd. Bu’n llwyddiannus, a hi oedd y wraig gyntaf yng Nghymru i gael ei hethol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol ac i eistedd ar gyngor bwrdeisdref. Ym 1910 daeth y cyfle i fod yn Faer. Byddai ei chyd-aelodau ar y cyngor wedi ceisio’i rhwystro pe gallent. Roedd hon yn fuddugoliaeth ac yn foment dyngedfennol, a hi oedd y wraig gyntaf, nid yn unig yn Aberhonddu ond yng Nghymru gyfan i wneud swydd Maer o 1910-1911, gan sicrhau symudiad gwragedd mewn cymdeithas yn y dyfodol.
Rhoddodd Gwenllian lais i wragedd Aberhonddu, fe’u galluogodd i dyfu ac i gael eu cymryd o ddifri, ac y byddai eu cryfder a’u galluoedd yn cael eu gwerthfawrogi gan ddynion. Erbyn diwedd cyfnod Gwenllian Morgan fel Maer, roedd teimlad anorchfygol y dylai hi gael gwybod am werthfawrogiad y bobl. Daeth dros 900 o wragedd ynghyd i dalu am gomisiynu’r arlunydd Isaac Cooke i baentio portread ohoni mewn olew er mwyn ei gyflwyno iddi.. Mae’r llun yn dal yn rhan o gasgliad Cyngor Tref Aberhonddu ac mae i’w weld heddiw yn y Guildhall, gan nodi moment bwysig yn hanes Aberhonddu, ac yn atgoffa pobl o’r argraff a wnaeth Gwenllian Morgan ar fywyd yn Aberhonddu ac ar y wlad, wrth iddi symud ymlaen. Bu’n aelod o’r cyngor nes 1929.
I symud ymlaen i’r presennol, mae’r Cynghorydd Marie Matthews yn disgrifio’r sefyllfa fel “cyfle gwych i wragedd i wneud gwahaniaeth mawr i safonau bywyd pobl leol, a sut mae materion lleol yn cael eu trin.” Mae’n ddiddorol clywed ymateb cynghorydd tref benywaidd yn awr, a gwrando arni’n siarad am waith arwyddocaol Gwenllian Morgan, a agorodd y ffordd i gynghorwyr benywaidd. Fel y dywed Marie, “arweiniodd llywodraeth leol y ffordd ar gyfer pleidleisiau i wragedd”, felly mae’r effaith yn anferthol.
Fel Gwenllian Morgan, nid yw’r Cynghorydd Marie Matthews wedi ymostwng i sterioteipiau rhyw, gan dreulio’r rhan fwyaf o’i hamser mewn rôlau traddodiadol wrywaidd. O’i chefndir mewn arlwyo, bod yn brif gogydd, yn fam sengl i ddau o fechgyn, bod yn gynghorydd tref a Chrïwr Tref Aberhonddu, mae Marie Matthews wedi byw yn Aberhonddu ers dros 40 mlynedd, ac mae’n wraig ysbrydoledig iawn. Mae Marie yn hoff o ddod i gysylltiad â phobl ac mae’n frwdfrydig dros eu galluogi, gan leisio’u pryderon a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Mae Marie am hybu gwragedd i gyrraedd eu llawn botensial yn nhermau’r cyngor, a dywed, “ rhaid i ni i gyd gefnogi gwragedd i sefyll a rhoi iddyn nhw’r gefnogaeth sydd ei hangen.”
Darllenwch fwy am Gwenllian Morgan drwy glicio ar y linc isod: Cliciwch yma
References: Welsh Journal titled “Brycheiniog” Volume 12, 1966/67. Online Journal Published by The National Library of Wales. Pg 93 – 111. Gwenllian Fanny Elizabeth Morgan by Elsie Pritchard.