

Roedd y rhai craff wedi sylwi ar y lorïau a’r rigin, ac wedi gofyn ar Facebook, “Beth sy’n digwydd yn y Gadeirlan?” Gwyddom erbyn hyn fod cwmni Opera Metropolitan Efrog Newydd yn rhoi pethau yn eu lle ar gyfer darlledu’n fydeang gyngerdd gan y bariton Cymraeg adnabyddus, Syr Bryn Terfel, ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr y deuddegfed, 2020. Profiad rhyfedd oedd gwylio’r darllediad, gan wybod ei fod yn digwydd gerllaw.
Gofynnodd ‘Stori Aberhonddu’ i Ddeon Aberhonddu, y Gwir Barchedig Dr. Paul Shackerley, am y digwyddiad. Roedd e’n gysylltiedig â’r trefnu a chlywodd rai o’r ymarferion. Roedd yn rhaid i’r gweddill ohonom wylio ar-lein.
Cyn y cyngerdd roedd Syr Bryn wedi dweud cymaint roedd y Benedictus yn ei olygu iddo. Roedd y Benedictus yn golygu llawer i Paul hefyd, gan fod sylfeini adeilad y Gadeirlan mewn Abaty Benedictaidd, ac mae’r Benedictus yn cael ei lefaru’n ddyddiol gan y Deon a’r coleg offeiriaid, yn union fel y byddai’n cael ei lefaru yn yr unfed ganrif ar ddeg gan fynachod Aberhonddu.
Fel arfer, ni fyddai’r Gadeirlan wedi bod ar gael ar gyfer y cyngerdd ar yr adeg hon o’r flwyddyn, oherwydd gwasanaethau a chyngherddau’r Adfent. Felly roedden nhw’n falch iawn o fod wedi gallu llwyfannu’r cyngerdd. Roedd y cyngerdd, gyda’i amrywiaeth o ganu gwerin a chlasurol, crefyddol a seciwlar, wedi codi’n hysbryd, yn ogystal â chyfrannu’n economaidd i’r dref. Unwaith y bydd y pandemig drosodd, gobeithiwn y bydd llawer o ymwelwyr am ddod yma i weld harddwch y dref a’r Gadeirlan drostynt eu hunain.
Roedd dau o gantorion adnabyddus Cymru, sef y soprano Natalya Romaniw a’r tenor Trystan Llŷr Griffiths, wedi ymuno â Syr Bryn, yn ogystal â’r delynores Hannah Stone, y pianydd Jeff Howard a’r grŵp gwerin Cymraeg ‘Calan’.
Cynhyrchwyd y cyngerdd gan gwmni Boom Cymru o Gaerdydd, ar ran y cwmni Opera Metropolitan.








