A portrait of Clare Parsons who is wearing a blue River and Canal Trust T-shirt

Mae Clare yn byw yn Aberhonddu ac yn gweithio i Glandŵr Cymru. Un o’i chyfrifoldebau yw rheoli Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Wedi byw yn Aberhonddu am 20 mlynedd, mae’r gamlas wedi bod yn rhan o fywyd teuluol Clare, wrth i’r teithiau yno gyda’i phlant symud ‘mlaen o’r pram i’r beic i deithiau cerdded hirach. Gan ddechrau yng nghanol Aberhonddu ym masn y gamlas, mae trip ar hydy gamlas yn mynd â chi i ganol cefn gwlad yn ddigon cyflym, lle gallwch fwynhau golygfeydd godidog a bywyd gwyllt fel crehyrod a dyfrgwn (os ydych chi’n lwcus). Gallwch deithio ar droed neu ar feic, neu eistedd yn ôl a morio.

Tref brydferth mewn lleoliad prydferth sydd â’r holl gyfleusterau sydd eu hangen ar rywun.

Er bos y gamlas yn lle heddychlon i gerddwyr, beicwyr a morwyr heddiw, roedd pethau’n dra gwahanol ‘slawer dydd. Mae Clare yn sôn wrthym am hanes hir y gamlas, sy’n estyn yn ôl i’r 18fed ganrif. Roedd y gamlas, a adeiladwyd i gludo deunyddiau i ac o odynau calch, ffermydd a phyllau lleol, yn wythïen ddiwydiannol brysur i ddechrau. Roedd badau llawn glo a chalch yn llenwi’r dyfroedd un tro, gyda’r gamlas yn cludo 150,000 tunnell o lo ym 1809. Fodd bynnag, erbyn diwedd y 19eg ganrif, dechreuodd y rheilffyrdd ddominyddu, ac edwinodd masnach ar hyd y gamlas. Mae’n dweud ei bod hi’n mwynhau rhedeg o gwmpas gyda’i chi, gan stopio am goffi yn un o gaffis amrywiol Aberhonddu. ‘Beth sy’n fy ysbrydoli i yw’r ffordd mae trigolion lleol ac ymwelwyr yn cymysgu i fwynhau’r un pethau yn y dref a’r amgylchedd naturiol,’ meddai. Gwrandwch isod i ddysgu mwy am Aberhonddu a’i chamlas. 

Main image - Brecon Beacons National Park Authority