Image of Brecon canal with a colourful long boat in the foreground and a row of welsh cottages in the background

Mae Rachael yn gweithio fel saer maen i Glandŵr Cymru, gan ddefnyddio ei sgiliau i warchod Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, darn hanfodol bwysig o dreftadaeth leol. Ar ôl astudio am radd mewn Celfyddyd Gain, dychwelodd i Aberhonddu i chwilio am heriau newydd. Pan awgrymodd ffrind iddi hyfforddi fel saer maen, sylwodd mai hwn oedd y dewis perffaith iddi.
 

Mae Rachael yn sôn am ei gwaith yn gofalu am ffabrig hanesyddol y gamlas, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol, sy’n angenrheidiol oherwydd statws rhestredig y gamlas, a sut brofiad yw bod yn fenyw mewn swydd sydd fel arfer yn fwy cysylltiedig â dynion. Mae hi hefyd yn amlinellu’r agweddau gorau ar ei gwaith (bod yn yr awyr agored ac archwilio ei chariad at bensaernïaeth) yn ogystal â’r rhannau mwyaf heriol (dringo i mewn ac allan o’r gamlas a stryffaglu drwy’r mwd).

Mae Rachael yn esbonio pa mor lwcus ydyn ni fod y gamlas mewn cyflwr mor dda – yn arbennig o ystyried pa mor gymhleth oedd y gwaith o adeiladu’r cysylltiad unigryw hwn i’n gorffennol, oherwydd y dirwedd anodd yr oedd yn rhaid i’r gamlas deithio drwyddi. Roedd unwaith yn wythïen ddiwydiannol bwysig, ond bellach mae’n ofod hamdden ac yn amgueddfa awyr agored y mae Rachael yn cael boddhad mawr o ofalu amdani. 

Gwrandwch ‘mlaen i ddysgu mwy am stori Rachael (gan gynnwys dylanwad Aberhonddu ar y gelf y mae’n ei chreu yn ei stiwdio ei hun).