Image of Gena Davies

Ar ôl symud o Bontypridd i Aberhonddu ym 1971, synnodd Gena Davies o glywed am ŵyl jazz newydd a fyddai’n digwydd yn y dref ym 1983.Roedd y syniad o gynnal digwyddiad o’r fath mewn tref a oedd yn fwy cyfarwydd â sioeau amaethyddol a threialon cŵn defaid yn ecsotig iawn, felly gafaelodd yn ei chamera a phenderfynu mynd i grwydro. Mae Gena’n cofio cael ei swyno gan y gerddoriaeth fyw yn llenwi’r dref.

Wrth i gerddorion berfformio a phobl ddawnsio ar strydoedd a oedd ar gau i draffig, dechreuodd dynnu lluniau’n llawn cyffro. Dyma oedd dechrau perthynas hir gyda Gŵyl Jazz Aberhonddu. Wrth i’r digwyddiad dyfu i mewn i un o’r dyddiadau pwysicaf yn y calendr jazz rhyngwladol, daeth yn fwy proffesiynol, yn anochel.

Mae Aberhonddu yn edrych yn fach ond mae cymaint yn digwydd ‘ma.

Golygai’r trefniadau diogelwch llymach ei bod hi’n fwyfwy heriol i Gena dynnu lluniau, ond daliodd ati i ffotograffio’r cerddorion a gyrhaeddai yn Aberhonddu o bob cwr o’r byd hyd at 2012 (gan gasglu’r cyfan mewn llyfr sy’n cynnig cronoleg ffotograffig hynod ddiddorol o’r ŵyl). Gwrandwch ar fwy o’i stori isod.