A portrait of Alison Meacham

Mae Alison Meacham o Croeso Aberhonddu yn sôn wrthym am ei chariad at Aberhonddu a’i rôl yn croesawu ymwelwyr i’r dref. Dechreuodd ymweld ag Aberhonddu 55 mlynedd yn ôl pan oedd hi’n blentyn yn byw yng nghymoedd de Cymru.

‘Fel trît ro’n ni’n dod i Aberhonddu ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul,’ meddai. ‘Ro’n ni’n ymweld â’r Promenâd a’r pwll nofio, ac mae gen i atgofion hyfryd o ymweld â’r amgueddfa neu gael te prynhawn yn Nôl yr Esgob.’

 

Ry’ch chi’n gallu gweld popeth mewn diwrnod,’ meddai, felly mae hi’n gofyn i ymwelwyr am eu diddordebau ac yn eu helpu i gael y mwyaf allan o’u hamser yn y dref.

Symudodd Alison i Aberhonddu 20 mlynedd yn ôl gyda’i gŵr, a oedd yn gweithio i’r papur newydd
lleol, ac mae hi nawr yn gweithio yng nghanolfan wybodaeth Aberhonddu – y man galw cyntaf i
ymwelwyr sy’n chwilio am bethau i’w gweld a’u gwneud o gwmpas y dref.

Ers agor ym mis Mai 2019, mae’r ganolfan wedi croesawu degau o filoedd o ymwelwyr - llawer o Ewrop (gan gynnwys llawer o’r Almaen a’r Iseldiroedd).Ar ôl yr holl flynyddoedd, mae Alison yn dal i ddwlu ar fyw yn Aberhonddu. ‘Am dref fach, mae’n cynnig cymaint,’ mae’n dweud wrthym. ‘Ni all llawer o drefi bach frolio eglwys gadeiriol, amgueddfa ilwrol, theatr, sinema a chymaint o natur prydferth.’

Gallwch chi glywed gweddill stori Alison isod.