Portrait of Frank Banks

Mae Frank yn arwain Tîm Croeso Cadeirlan Aberhonddu, grŵp o wirfoddolwyr sydd wrth law i helpu a hysbysu ymwelwyr â’r Gadeirlan, sy’n dod o bob cwr o’r byd. Mae’n dweud wrthym pam fod pobl yn cael eu denu i’r lle rhyfeddol hwn, a ddechreuodd ei oes fel Priordy Ioan Fedyddiwr bron i fil o flynyddoedd yn ôl, cyn dod yn gadeirlan ym 1923, ac yn datgelu rhai o gwestiynau mwyaf cyffredin yr ymwelwyr.

Mae hefyd yn datgelu rhai o gyfrinachau’r adeiladu (fel pam fod dau ddrws hanner ffordd i fyny’r wal) ac yn adrodd stori St Cattwg a’r llygoden wen, un o’r o hanesion sy’n gysylltiedig â’r Gadeirlan.

Gwrandwch ‘mlaen i ddysgu mwy.

Mae Aberhonddu yn arbennig gan fod ei gwir drysorau eto i’w darganfod.