Portrait of Lynne Gornall and Roger Cannon from Brecon Jazz Festival

Mae Lynne Gornall a Roger Cannon yn sôn wrthym am eu penderfyniad i ymgartrefu yn y dref ar ôl ymweld â Gŵyl Jazz Aberhonddu, gan hefyd ystyried safle’r digwyddiad yn y sîn jazz ryngwladol. Roedd yr ŵyl gynnar, a grëwyd ym 1984 gan selogion lleol – yn gerddorion, hyrwyddwyr a ffans – yn cynnwys cerddoriaeth jazz fyw ar y strydoedd ac yn nhafarndai a chaffis Aberhonddu.

Roedd yn ddigwyddiad cymunedol a grëwyd gan drigolion y dref, wedi’i fodelu ar ddigwyddiadau jazz New Orleans-aidd. O’i dechreuad diymhongar, mae’r ŵyl bellach yn enwog ledled y wlad a thu hwnt. Ym 1986 teithiodd Lynne a Roger o’u cartref yng ngogledd Lloegr i’w Gŵyl Jazz Aberhonddu gyntaf, gan benderfynu aros yn Aberhonddu yn barhaol yn y pen draw.

Dwedwch yr enw Aberhonddu wrth unrhyw un a’r ateb bob tro yw Gŵyl Jazz Aberhonddu. Mae’n frand mor adnabyddus.

Tyfodd yr ŵyl yn ddigon cyflym i gynnwys neuaddau cyngerdd yn ogystal â cherddoriaeth stryd, gan ddenu cerddorion rhyngwladol yn ogystal â miloedd o ymwelwyr. Y dywediad yw fod unrhyw un sy’n adnabyddus yn y byd jazz wedi chwarae Gŵyl Jazz Aberhonddu.

Mae cerddorion jazz lleol wedi bod yn rhan ohoni o’r dechrau’n deg. Yn y 1970au, amser maith cyn i’r ŵyl ddechrau, roedd clwb jazz bywiog iawn yn y dref. Heddiw mae Lynne a Roger yn cadw’r dreftadaeth gerddorol hir hon i fynd drwy redeg Clwb Jazz Aberhonddu gyda chymuned Aberhonddu o gerddorion jazz. Gwrandwch ‘mlaen i glywed y stori lawn.

Trawsgrifiad wedi'i gyfieithu

Header Image - Gena Davies