Os ydych chi am ychydig o awgrymiadau am henaint hapus a bodlon, gallai Joyce a Leslie Williams o Aberhonddu fod o help.

Mae’r ddau wedi derbyn telegramau oddi wrth y Frenhines – Joyce ym Mehefin eleni, pan gyrhaeddodd ei phenblwydd yn gant oed, a Leslie fwy na dwy flynedd yn ôl – wrth iddo anelu am ei benblwydd yn 103.

Bu plant o ysgolion babanod a chynradd Mount Street yn canu Penblwydd Hapus i Joyce, tra’r oedd Crïwr y Dref, Marie Mathews, yn cyhoeddi’r newyddion da.

Cyflwynwyd cardiau ac anrhegion hefyd ar ran Cyngor Tref Aberhonddu gan y Maer,   David Meredith, a Chadeirydd Cyngor Sir Powys, Gareth Ratcliffe.

Ar ôl y diwrnod mawr, eisteddodd y ddau i lawr gyda Stori Aberhonddu i ffilmio cyfweliad am eu bywydau cynnar, sut y dechreuon nhw garu tra’r oedd y ddau yn y gwasanaethau milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac am eu hatgofion o ddychwelyd i Gymru i ffermio yng nghefn gwlad Brycheiniog.

Mae Joyce yn chwerthin wrth gofio am eu cyfarfyddiad cyntaf, a hithau’n meddwl, “Wel, mae e’n Gymro”, ac fe ddwedes inne, “dw i ddim yn hoffi’r Cymry”, ond ro’n i’n hollol anghywir!”

Mae’r ddau hefyd yn sôn am y modd y bu ffermydd lleol yn helpu i osgoi’r dogni ym Mhrydain wedi’r rhyfel, am eira a rhew mawr 1947, ac am wisgo ar gyfer dydd marchnad yn Aberhonddu.

Maen nhw hefyd yn datgelu eu cyfrinachau am fywyd hir a llwyddiannus.

Gwyliwch y fideo i ddarganfod mwy.