Illumine yw prosiect hyfforddiant yn y celfyddydau digidol dros ddeunaw mis, ar gyfer “Crewyr Delwedd” ifanc (16-25 mlwydd oed); fe’i rheolwyd a’i cydlynwyd gan Peak ar gyfer Cyngor Sir Powys. Wedi dechrau’r prosiect yn y Gwanwyn 2018, mae ein “Crewyr Delwedd” ni wedi gweithio’n agos gydag artistiaid proffesiynol er mwyn ‘ail-ddychmygu’ Bannau Brycheiniog a’r fro. Crëwyd cynnwys digidol newydd a gwreiddiol, ar gyfer arddangosiad yn y Gaer, hwb diwylliannol newydd Aberhonddu.

Dwi wedi byw yma bron gydol fy oes, ac ‘doedd dim syniad gen i y byddwn i’n gallu gweld y lle ‘ma o safbwynt newydd.

Mae’n ail-gyfareddu.”

Mae’r prosiect wedi cynnwys sesiynau “gweithdy”, teithiau, ymweliadau i stiwdios, a thynnu lluniau a fideo ar leoliad, er mwyn ymateb i nodweddion unigryw’r ardal. Mae’r “Crewyr Delwedd” wedi cyd-weithio gyda chelfyddwyr uchelgeisiol er mwyn archwilio themâu fel twristiaeth gynaliadwy, llên gwerin, daeareg, ymgyrchu trwy grefft, gofod cyhoeddus, ffasiwn, dwyieithrwydd, a hunaniaeth.

Getting ready to film the Illumine Project - photo credit Image Makers
 
Ffocws y prosiect yw datblygu sgiliau, ond hefyd mae wedi darparu cyfleoedd i bobl ifanc cyfarfod cyfoedion â diddordebau cyffelyb mewn ardal wledig. Mae mentora unigol gyda’r Cynhyrchydd Cysylltiol, Morag Colquhoun, wedi galluogi’r bobl ifanc i gydnabod a datblygu sgiliau a rhwydweithiau. Er bod y prosiect yn dod i ben, mae ymroddiad gan Peak i gefnogi’r arferwyr blagurog hyn i ddilyn gyrfaoedd creadigol trwy waith prosiect ymhellach.
 

Illumine Project with Peak Cymru photo credit - Image Makers

 

Mae gwirfoddoli gydag Illumine wedi arwain ataf eisiau gwneud pethau fel hyn drosof fy hunan yn amlach – prosiectau sy’n greadigol ac yn eich helpu i ddysgu mwy amdanoch eich hunan mewn perthynas â’ch cartref. Rwyf yn teimlo fel fy mod eisiau mwy o brofiadau o fywyd nawr yn hytrach na mwy o addysg.”

Filming in and around Brecon for the Illumine Project - photo credit Image Makers

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid Cymunedau Gweldig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae Illumine hefyd yn derbyn cyllid gan Gyngor Sir Powys a Chronfa Datblygiad Cynaliadwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.