Roedd strydoedd Aberhonddu’n fywiog gyda’r dathliadau i goffáu Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Am gyfnod o bedwar diwrnod bu dathliadau amrywiol i werthfawrogi ei gwasanaeth i’r Deyrnas Unedig dros gyfnod o 70 mlynedd – o barti stryd yn Stryd y Llew i act deyrnged i Freddy Mercury (Luke as Freddy) ar y llwyfan band ar y Promenâd. 

 

Yr unig beth oedd yn llosgi’n fwy disglair nag ynni cyfunol trigolion Aberhonddu, oedd coelcerth y Bannau – un o nifer a daniwyd ar draws tirlun Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ymunodd busnesau lleol hefyd yn y dathlu, ac roedd baneri a rhubanau yn addurno’r siopau ar hyd y prif strydoedd. Yn ogystal â’r addurniadau, a roddwyd drwy ymdrechion y bobl ifanc a ymunodd â’r tîm yn Eglwys y Santes Fair ar gyfer eu digwyddiad ‘Messy Jubilee’, roedd y ‘Cosplay Queen’ hefyd yn bresennol, gyda’i deinosor anwes cyfeillgar.

Performance in Brecon on the Queen's Jubilee June 2022

Drwy gydol yr amser, roedd yna nifer o stondinau, yn cynnig amrywiaeth o gofroddion i gofio am y Jiwbilî. Gellid fod wedi cael pâr o esgidiau Jac yr Undeb neu flanced drwchus a wnaethpwyd â llaw – i gofio hapusrwydd cyfunol Aberhonddu ar adeg mor arbennig yn hanes y D.U.

O alwad y crïwr tref, i ganu’r clychau, i seiniau’r corau a’r partïon stryd a oedd yn adleisio drwy Aberhonddu, roedd yna deimlad o gymuned a chyfeillgarwch. Mae arddangosfa hyfryd o werthfawrogiad oddi wrth bawb a fanteisiodd ar y cyfle i uno yn y dathlu ar gael nawr fel rhan o Stori Aberhonddu, a bydd fyw am byth yn ei hanes.