Portrait of Gemma Schiebe, who has long blonde, hair, wearing glasses

Yn arddangos gwaith gan artistiaid lleol a gwadd, mae Ardent Gallery yn enghraifft arall o sîn gelf fywiog Aberhonddu. Mewn adeilad sy’n dyddio’n ôl i 1586 (yr hynaf ar Stryd Fawr Aberhonddu), mae’r tri llawr yn gartref i nifer o orielau golau braf sy’n llawn paentiadau, gemwaith a cherfluniau – ynghyd â siop goffi a chacennau glyd.

Mae gan Reolwr yr Oriel, Gemma Schiebe, a aned yn Aberhonddu, radd BA (Anrh) mewn celf gain, ac mae’n disgrifio’r dref fel magned i artistiaid, lle mae gwneuthurwyr ifanc fel hi yn cael eu hannog a’u helpu gan eu cyfoedion. Er ei bod yn dref gymharol fach, mae Aberhonddu’n gawr yn y byd diwylliant a chelf.

Ar yr wyneb, mae Aberhonddu yn dref fechan, ond galwch draw ac fe welwch fod cymaint yn digwydd yma – mae’n anodd credu’ch llygaid weithiau.

Mae Taith Stiwdios Agored flynyddol Aberhonddu yn brawf o hyn. Mae Gemma yn un o nifer o drigolion lleol sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol, lle mae artistiaid, gwneuthurwyr a ffotograffwyr yn agor drysau eu stiwdios i gynnig cip y tu ôl i’r llenni i’w prosesau creadigol.