Portrait of Elizabeth Jeffreys, who has short cropped hair and glasses and is wearing a red blazer and black top

Ers cyrraedd yma, mae hanes Aberhonddu wedi swyno Elizabeth. Mae’n estyn yn ôl i’r 5ed ganrif ac Oes y Saint, pan roedd y Brenin Brychan Brycheiniog yn bennaeth ar deyrnas hynafol Brycheiniog. Mae’n sôn wrthym am lawlyfr o’r 1950au, y daeth ar ei draws yn fuan ar ôl symud i’r dref, a oedd yn cynnwys dyfyniad hynod ddiddorol. (gweler isod) 

Mae Elizabeth hefyd yn datgelu rhai o ddigwyddiadau hanesyddol allweddol eraill Aberhonddu. Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu Clwb Rygbi Aberhonddu yn 1874 a’i rôl yn sefydlu Undeb Rygbi Cymru yn 1881, yn ogystal â sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Aberhonddu yn 1775 – cymdeithas amaethyddol hynaf y DU erbyn hyn.

Few if any of the older towns of Wales can compare with Brecon in the quality of its domestic architecture. Excellent examples of houses belonging to periods ranging from Tudor to early Victorian may be seen in its winding streets serving as a reminder of the opulence and respectability of bygone days.

Digwyddiad allweddol arall yn 1775 oedd genedigaeth yr actores Sarah Siddons yn yr hen Shoulder of Mutton Inn, sydd bellach yn dwyn ei henw. Yn y 1750au daeth ei rhieni, Roger a Sarah Kemble, i Aberhonddu fel rhan o grŵp teithiol, ac ymwelon nhw â’r dref gyda’u teulu dros y 30 mlynedd nesaf. Saethodd Sarah i enwogrwydd fel actores ac roedd ei bywyd yn llawn llwyddiant, methiant, trychineb a sgandal.

Mwynhaodd foliant y cyhoedd am 50 mlynedd a chafodd ei pheintio gan artistiaid blaenllaw’r oes, gan fyw bywyd lliwgar iawn tan ei marwolaeth yn 1831. Heddiw, mae cerflun ohoni yn sefyll yn Abaty San Steffan; yr awdur Charles Dickens ddechreuodd y gwaith o gasglu arian ar gyfer hwn.

Gwrandwch ‘mlaen i glywed mwy o straeon Aberhonddu Elizabeth.