Mae hanes milwrol hir ac amrywiol Aberhonddu yn cydblethu â llawer o frwydrau pwysicaf y canrifoedd diwethaf, ond efallai mai’r enwocaf oll yw Rorke’s Drift yn ystod y Rhyfel Eingl-Zwlŵaidd ym 1879. Chwaraeodd y 24ain Gatrawd (un o unedau rhagflaenol Catrawd y Cymry Brenhinol) rôl fawr yn y rhyfel, gan gael sawl buddugoliaeth. Cyfeiriodd y frenhines Fictoria at y gatrawd fel ‘Y 24 Mawrfrydig’ mewn teyrnged i’w hymdrechion, tra bod Donald Morris wedi adrodd stori gyffrous yr ymgyrch yn ei lyfr ‘The Washing of the Spears’.

 Ond brwydr Rorke’s Drift sy’n parhau i ddal y dychymyg, diolch yn bennaf i’r ffilm Zulu o 1964 gyda Michael Caine a Stanley Baker. Dros ddeuddydd ym mis Ionawr 1879, gwnaeth 150 o filwyr Prydeinig a threfedigaethol wrthsefyll cyfres o ymosodiadau gan tua 4,000 o ryfelwyr Zwlŵaidd. Yn dilyn y frwydr, rhoddwyd 11 o Groesau Fictoria i’r milwyr Prydeinig, ynghyd â nifer o addurniadau ac anrhydeddau eraill. 

Mae Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol bellach yn dal casgliad helaeth o wrthrychau a dogfennau sy’n gysylltiedig â’r frwydr. Mae yna wisgoedd, medalau, dogfennau, arfau a modelau sy’n gysylltiedig â Brwydr Isandlwana – lle trechwyd lluoedd Prydain cyn eu hamddiffyniad o Rorke’s Drift. Ymysg yr uchafbwyntiau mae blwch ffrwydron o Islandlwana, y faner a chwifiwyd uwchben Rorke’s Drift a phenwisg y brenin Zwlŵaidd, Cetshwayo. Gall ymwelwyr hefyd weld adroddiad cyntaf y Prydeinwyr o Rorke’s Drift (a ysgrifennwyd ychydig oriau ar ôl i’r frwydr orffen) ac archif o lythyrau a dogfennau yn ymwneud â’r milwr cyffredin Henry Hook, y rhoddwyd Croes Fictoria iddo am ei ymdrechion.

Mae rhagor o eitemau o’r bennod hon o hanes milwrol yng Nghadeirlan Aberhonddu, lle mae prif ffenestr y dwyrain wedi’i chysegru i’r rhai a gollodd eu bywydau yn yr ymladd. Mae Capel Havard yno hefyd, sy’n dyddio o’r 14eg ganrif. Ym 1922, daeth yn Gapel Coffa Rhyfel Catrawd Cyffinwyr De Cymru a Sir Fynwy ac mae’n arddangos yr Osgordd a gariwyd yn y rhyfel Eingl-Zwlŵaidd ar y wal ddeheuol.

www.royalwelsh.org.uk

www.breconcathedral.org.uk