Portrait of Jay and Velvet taken against a grey stone brick wall

Mae Velvet a Jay, aelodau newydd o staff yn Theatr Brycheiniog, yn siarad â ni am sîn greadigol a diwylliannol Aberhonddu.

‘Am le bach, mae Aberhonddu’n greadigol iawn,’ meddai Velvet. ‘Mae ‘na lot fawr o artistiaid, cantorion a beirdd yma.’

Mae Jay yn dweud wrthym, pan nad yw’n gweithio, ei fod yn dod i Aberhonddu i wylio sioe neu grwydro’r gamlas ar daith gwch – sydd, yn gyfleus iawn, yn gadael o fasn y gamlas y tu fas i’r theatr

Mae’n lle ysbrydoledig i artist neu awdur,’ meddai. ‘Nid yn unig am yr amgylchedd naturiol prydferth, ond hefyd am y bobl. Mae’n gymuned yng ngwir ystyr y gair, sy’n ei gwneud hi’n hawdd i bobl ffurfio grwpiau, meddwl am syniadau a phrosiectau, a’u gwireddu.

Mae Jay yn dweud wrthym, pan nad yw’n gweithio, ei fod yn dod i Aberhonddu i wylio sioe neu grwydro’r gamlas ar daith gwch – sydd, yn gyfleus iawn, yn gadael o fasn y gamlas y tu fas i’r theatr.

Mae Velvet a Jay yn meddwl bod Theatr Brycheiniog yn ased gwych i’r dref ac yn rhywbeth i’w warchod a’i gefnogi. Mae mewn lleoliad gwych ac yn lleoliad maint canolig gwerthfawr lle gall pawb brofi celf, theatr a cherddoriaeth. Maent hefyd yn esbonio bod gan y theatr gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cydweithio’n fwy gyda’r gymuned ar draws pob grŵp oedran.

Mae Jay yn disgrifio Aberhonddu fel tref gynnes, draddodiadol, lle mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser. ‘Mae Aberhonddu yn swigen fach greadigol,’ meddai. Gwrandwch ‘mlaen i glywed sgwrs lawn Velvet a Jay.