Fydd llawer o bobl ddim yn gwybod fod awdur y llyfr printiedig cyntaf yn Gymraeg yn frodor o Aberhonddu. Cafodd 'Yn y Lhyvyr Hwn ' ei ysgrifennu gan Syr John Prys, neu Price, a chafodd ei brintio yn 1546. Mae'r cyfweliad hwn yn gosod y llyfr yn ei gyd-destun hanesyddol, yn ogystal â delio â chynnwys y llyfr a rhoi ychydig wybodaeth am yr awdur.
Mae'r stori hon wedi cael ei hysgrifennu a'i hadrodd gan John Meurig Edwards, sydd wedi byw yn Aberhonddu ers dros 50 mlynedd. Roedd e'n arfer bod yn brifathro Ysgol y Bannau, sef yr ysgol cyfrwng Cymraeg yn Aberhonddu, ac yn ystod ei gyfnod yno y datblygodd ei ddiddordeb yn hanes y dref a'r ardal. Mae e'n credu ei bod yn bwysig fod plant yn dod i wybod am dreftadaeth hanesyddol cyfoethog yr ardal yma. Felly roedd lle amlwg i hanes lleol yng nghwricwlwm yr ysgol.
Recordiwyd y stori yn ddwyieithog, gyda John yn siarad â Nic Groombridge yn Saesneg, a gyda'i wraig, Margaret, yn Gymraeg