Mae Cadeirlan Aberhonddu (sy’n adeilad rhestredig Gradd I), a ddechreuodd ei bywyd fel Priordy Benedictaidd Ioan Fedyddiwr ym 1093 ac a adeiladwyd ar safle eglwys Geltaidd gynharach, a Chlos y Gadeirlan yn cynnwys casgliad gorau Cymru o adeiladau eglwys canoloesol. Yn yr oesoedd canol hwyr daeth yr eglwys yn enwog am ei Chroes Aur, ac roedd yn gyrchfan i lawer o bererinion. Cafodd y groes fawr ei dinistrio yn ystod Diddymiad y Mynachlogydd ym 1537, ond goroesodd yr adeiladau a ffurfio Eglwys Blwyf Aberhonddu cyn iddi gael ei dyrchafu’n Gadeirlan ar ôl i Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu gael ei sefydlu ym 1923.

Mae hirhoedledd yr adeilad i’w weld yn ei bensaernïaeth, sy’n cynnwys bwâu Normanaidd, to pren trawiadol sy’n dyddio’n ôl i waith adfer Fictoraidd a wnaed gan Syr George Gilbert Scott, y bedyddfaen Normanaidd cain a’r Garreg Cresed. Mae Capel Havard (Capel Catrodol 24ain Gatrawd y Cymry Brenhinol erbyn hyn), sy’n dyddio o’r 14eg ganrif, yma hefyd ac yn cynnwys Gosgordd Baneri, gan gynnwys rhai o’r rhyfeloedd Zwlw a Rorke’s Drift.

Aberhonddu,
LD3 9DP

breconcathedral.org